Ffermwyr Ceredigion yn wynebu argyfwng yn sgil Covid-19

Crop_Mart_Tregaron.jpg

Mae AC ac AS Ceredigion wedi rhybuddio bod ffermwyr Cymru yn wynebu argyfwng enfawr os na fydd Llywodraeth Cymru yn ymyrryd ar unwaith.

Mae Elin Jones AC a Ben Lake AS wedi ysgrifennu at y Gweinidog dros Faterion Gwledig yng Nghaerdydd yn egluro y bydd angen ymyrraeth uniongyrchol ar ffermwyr Cymru i’w helpu trwy argyfwng Covid-19.

Mewn llythyr a anfonwyd heddiw at Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, maent yn tynnu sylw at y cwymp sydyn ym mhrisiau llaeth a chig i ffermwyr yn ystod yr wythnosau diwethaf, a hynny yn gilyn gaeaf caled a chostau bwydydd anifeiliaid sylweddol uwch.

Mae'r llythyr yn galw am becyn penodol o gefnogaeth i gynhyrchwyr bwyd yng Nghymru yn yr un modd â'r rhai a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer busnesau bach a'r hunangyflogedig. Nid yw llawer o ffermwyr yn cwrdd â'r meini prawf ar gyfer y naill gynllun na'r llall, er eu bod yn allweddol i'r diwydiant cynhyrchu bwyd mewn cyfnod o argyfwng.

Dywedodd Elin Jones AC: "Dyma'r adeg o'r flwyddyn pan fydd cynhyrchwyr llaeth a chig yn ceisio sicrhau'r incwm mwyaf posibl fydd y neu cynnal dros weddill y flwyddyn.

"Mae cyfnod y gwanwyn yn hanfodol i gynhyrchwyr llaeth ledled Cymru ac mae ffermwyr yn fwy dibynnol nag erioed ar eu cynnyrch craidd yn ystod y cyfnod ‘lockdown’ hwn. Mae unrhyw incwm amgen o dwristiaeth, y mae llawer o ffermwyr wedi cael eu cymell i fynd amdano yn y gorffennol, wedi diflannu dros nos."

Ychwanegodd Ben Lake AS: "Gofynnwn i Lywodraeth Cymru ystyried ehangu'r mesurau hyn i gynnig cefnogaeth ariannol uniongyrchol i fusnesau ffermio sydd hefyd wedi gweld effaith yr argyfwng ar eu busnesau – a hynny  ar frys.

"Byddem hefyd yn ddiolchgar o wybod pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU o ran ymyriadau marchnad posibl i sefydlogi prisiau."

 

Llythyr at Lesley Griffiths Llywodraeth Cymru:

 

BL_EJ_Llythyr_ar_y_cyd_LG_Support_for_Farmers_COVID-19-page-001.jpg BL_EJ_Llythyr_ar_y_cyd_LG_Support_for_Farmers_COVID-19-page-002.jpg

 

Llythyr at George Eustice (Llywodraeth San Steffan):

benllyr1.jpg benllyr2.jpg

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.