‘Mae’r manwerthwyr tanwydd mwyaf yn mwynhau elw sy’n uwch na’r cyfartaledd mewn cyfnod lle mae cartrefi a busnesau bychan yn ei chael hi’n anodd, Ben Lake AS
Mae Ben Lake AS, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, wedi galw ar y manwerthwyr mawr i dorri pris tanwydd yn unol â chostau cyfanwerthu.
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin ar ddydd Mawrth 14 Tachwedd, dywedodd wrth Ysgrifennydd y Trysorlys, Gareth Davies AS, bod cost tanwydd “yn ofid mawr i etholaethau gwledig” a gofynnodd am asesiad o effaith maint yr elw uwch ar gartrefi.
Mae Mr Lake was cefnogi ymgyrch yr RAC i dynnu 5c oddi ar bris petrol oherwydd pryderon bod y manwerthwyr tanwydd mwyaf wedi cynyddu maint eu helw yn ystod y misoedd diwethaf.
Dywed yr RAC bod y pedwar archfarchnad fawr yn gwneud yr elw uchaf o betrol – ar gyfartaledd 16c i bob litr o danwydd di-blwm a werthwyd yn Hydref, a 12c ar bob litr o ddisel.
Dywedwyd hefyd bod yr elw ar danwydd di-blwm ddwywaith y cyfartaledd a wnaed gan archfarchnadoedd ers 2012.
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin dydd Mawrth, dywedodd Ben Lake:
“Bydd y Gweinidogion yn ymwybodol bod pris tanwydd yn ofid mawr i gymunedau gwledig.
Mae’r RAC wedi darganfod bod yr archfarchnadoedd mawr yn gweld maint eu helw ar werthiant tanwydd ym mis Hydref ddwywaith y ffigwr ar gyfer y flwyddyn hyd yma ar 14c y litr. Mae hynny yn adlewyrchu pryderon y Competition and Markets Authority bod pris cyfanwerthu tanwydd wedi gostwng ym mis Medi a Hydref, er bod prisiau adwerthu heb ostwng.
Beth yw asesiad y Trysorlys ar yr effaith bydd maint yr elw yma yn ei gael ar gartrefi yn ystod gaeaf eleni?
Atebodd Mr Davies:
"Rydym yn cydnabod bod toll ar danwydd yn gost fawr i gartrefi a busnesau. Dyna pam bod y Canghellor wedi ymestyn y gostyngiad toll dros dro o 5c yn ystod Datganiad y Gwanwyn 2023. Roedd hyn yn arbediad o £5bn i yrwyr a £100 i’r gyrwyr ar gyfartaledd, ond rydym yn cadw golwg ar hyn bob amser.”
Ar ôl y sesiwn, ychwanegodd Ben Lake AS:
“Mae’n iawn i lywodraeth y DU dorri toll tanwydd, ond ni fydd cyllidebau cartrefu yn elwa o’r penderfyniad os yw archfarchnadoedd sy’n gwerthu tanwydd yn amsugno’r gwerth er mwyn cynyddu’r elw ar bob litr o danwydd, fel sy’n ymddangos i fod wedi digwydd yn ystod y misoedd diwethaf. Daeth maint yr elw uwch na’r cyfartaledd i’r golwg yn dilyn canfyddiadau ymchwiliad y Competition and Markets Authority yn ystod haf eleni bod y pedwar prif archfarchnad wedi codi hyd ar 6c y litr yn fwy yn 2022, cyfanswm cost o tua £900m.
“Yn ôl dadansoddiad yr RAC, maint y cyfartaledd elw ar danwydd cyn rhyfel Wcráin oedd 4.7 y litr, ond ers dechrau’r rhyfel mae hyn wedi codi i gyfartaled o 9.5 y litr. Mae maint yr elw ar gyfartaledd ar gyfer Hydref 2023 yn uwch fyth.
“Mae'n amlwg bod manwerthwyr tanwydd mwyaf y DU yn mwynhau maint elw uwch na'r cyfartaledd ar adeg pan na all cartrefi a busnesau bach fforddio'r gost ychwanegol. Mae pris tanwydd yn bryder ar draws y DU ac yn allweddol i werth chwyddiant, ond mae cymunedau gwledig yn cael ei effeithio’n waeth gan brisiau uchel am fod yn rhaid i ni deithio ymhellach er mwyn derbyn gwasanaethau, gwaith ac addysg. Ar ben hyn, ar adeg pan mae gwasanaethau bysus yn cael eu torri’n ddidrugaredd, mae’r costau uwch wrth y pwmp yn dwysau effaith diffyg trafnidiaeth gyhoeddus.
“Mae Llywodraeth y DU a’r CMW wedi datgan pryder am y farchnad manwerthu tanwydd. Mae’n hen bryd iddynt ymateb i sicrhau mwy o dryloywder yn y ffordd mae prisiau wrth y pwmp yn cael eu gosod er mwyn rhoi’r fargen orau i bawb. Yn y cyfamser, rwy’n ymuno â galwad yr RAC i annog y manwerthwyr mawr i dorri pris tanwydd gan 5c y litr er mwyn adlewyrchu pris cyfanwerthol tanwydd.
Dangos 1 ymateb