Er bod nifer fawr o bethau i godi calon ar hyn o bryd – llwyddiant tîm pêl-droed Cymru, adfywiad sioeau amaethyddol, eisteddfodau bach a digwyddiadau lleol ar draws y sir yn dilyn Covid, a’r edrych ymlaen tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst – mae’r argyfwng costau byw presennol yn taflu ei gysgod dros gymdeithas gyfan ar hyn o bryd.
Yn anffodus, mae effaith y cynnydd mewn biliau ynni a thanwydd yn cael effaith aruthrol ledled Cymru ac yn enwedig felly mewn ardaloedd gwledig fel Ceredigion. Mae adroddiadau’n awgrymu y gallai cymaint â 45% o aelwydydd Cymru fod mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd diweddaraf yn y cap ar brisiau ynni.
Ymhellach at hyn, mae tua 72% o gartrefi Ceredigion heb eu cysylltu â'r prif gyflenwad nwy, ac o ganlyniad mae bron i 40% yn dibynnu ar olew i wresogi eu cartrefi. Ar gyfartaledd, maent wedi gweld cynnydd o 150% yng nghost eu archebion olew gan nad ydynt wedi’u diogelu gan y cap ar brisiau ynni.
Mae prisiau tanwydd uwch hefyd yn bygwth yr economi wledig. Anghofiwn weithiau fod prisiau cynyddol petrol a disel yn cael effaith ddifrifol ar wasanaethau cyhoeddus. Pan fydd y prisiau hynny’n cynyddu, daw’n anos cynnal llwybrau bysiau gwledig a gwasanaethau trafnidiaeth ysgol. Yn fwy pryderus efallai, mae gweithwyr hollbwysig, fel gofalwyr cymdeithasol, yn ei chael hi’n anodd fforddio gweithio. Dros yr wythnosau diwethaf rwyf wedi dadlau yn y Senedd y byddai modd cael rhywfaint o ryddhad tymor byr i’r sefyllfa enbyd hwn trwy’r cynllun rhyddhad treth ar danwydd gwledig, trwy ymestyn y cynllun (sydd eisoes mewn grym mewn ardaloedd gwledig yn Lloegr a’r Alban) i Gymru.
Fel cadeirydd y grŵp seneddol trawsbleidiol ar dlodi tanwydd, rwyf hefyd wedi bod yn annog Llywodraeth San Steffan i ystyried cynigion ‘National Energy Action’ ar gyflwyno tariff cymdeithasol newydd i helpu cwsmeriaid mwyaf agored i niwed. Dylai cynnig o’r fath fynd law yn llaw ag ymdrechion i hyrwyddo cynlluniau sydd eisoes yn bodoli megis y Gronfa Cymorth Dewisol (Discretionary Assistance Fund) a’r taliad tanwydd gaeaf i bob aelwyd incwm isel. Byddai hyn oll yn mynd i’r afael â’r pwysau tymor byr sy’n deillio o brisiau ynni uwch.
Ateb tymor hir fyddai cynnydd sylweddol yn y cyllid ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni. Yn benodol, dylai Llywodraeth San Steffan gyflwyno deddfwriaeth ECO4 (y rhwymedigaeth cwmni ynni) yn ddi-oed i sicrhau bod mesurau inswleiddio’n cael eu gosod ar gyfer y cartrefi tlotaf cyn gynted â phosibl.
Yn syml iawn, mae teuluouedd a chartrefi ar draws Ceredigion angen i Llywodraeth San Steffan wneud mwy i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw presennol – yn y tymor byr a’r tymor hir.
Dangos 1 ymateb