Costau byw: ‘Plastr ar glwyf cymdeithasol ymledol’ – Plaid Cymru

kwon-junho-rAdv5yB8gDc-unsplash.jpg

Mae Ben Lake AS, Llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi, wedi dweud taw datrysiad dros dro yw mesurau’r Canghellor Rishi Sunak wrth fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw presennol.

Beirniadodd y mesurau am “wthio’r cynnydd mewn prisiau ar gartrefi incwm isel” a phwysodd ar y Llywodraeth i “ail ystyried ei benderfyniad” gan ddweud mai’r peth diwethaf sydd ei angen ar gartrefi a busnesau ar hyn o bryd yw codiadau treth a thoriadau lles

Bydd cartrefi yn wynebu’r cynnydd mwyaf erioed mewn costau ynni o fis Ebrill ymlaen, cynnydd 54% ar ôl i Ofgem godi’r cap ar y tariff diofyn i £1,971.

Bydd cartrefi yn derbyn gostyngiad un-tro o £200 ar ei biliau ynni eleni, a bydd cartrefi yn Lloegr o fewn band treth cyngor A i D hefyd yn derbyn ad-daliad o £150. Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £175 biliwn mewn taliad Barnett canlyniadol yn sgil y cyhoeddiad.

Pwysleisiodd Ben Lake AS fod 270,000 o gartrefi Cymru, bron i bumed o bob cartref heb ei gysylltu i’r grid nwy yn 2020. Mewn ardaloedd gwledig fel Ceredigion, mae’r ffigwr yn codi i bron 80 y cant. Derbyniodd AS Ceredigion warant y bydd yr ad-daliad yn berthnasol i filiau trydan.

Dywedodd Ben Lake AS:

“Rydym wedi aros yn rhy hir am y gefnogaeth yma a dim ond “plastr ar y clwyf cymdeithasol ymledol o dlodi tanwydd yw hwn. Mae'r problemau sy'n wynebu aelwydydd Cymru wedi bod yma ers tro ac mae'r ad-daliad o £200 fydd yn gorfod cael ei dalu nôl yn hwyrach ond yn gwthio'r cynnydd mewn prisiau ar aelwydydd incwm isel.

“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth ail ystyried ei benderfyniadau - y peth diwethaf sydd ei angen ar gartrefi a busnesau ar hyn o bryd yw codiadau treth a thoriadau lles. Rwy’n annog y Canghellor i godi’r Credyd Cynhwysol i gwrdd â galwadau cyllido Plaid Cymru i ddod a thlodi tanwydd i ben yng Nghymru yn ystod y ddegawd yma.

"Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru ddosbarthu’r cyllid i gartrefi, gan gynnwys y rhai sydd heb eu cysylltu â’r prif rwydwaith ynni a’r rhai ar fesuryddion rhagdalu. Rhaid i ni hefyd wneud mwy i weithredu’r mesurau gwella effeithlonrwydd ynni yn ein cartrefi er mwyn gostwng biliau, gwneud lles i’r hinsawdd a chael sicrwydd ynni hirdymor.”

 

Wrth siarad yn y Tŷ Cyffredin ddoe, dywedodd Ben Lake AS:

 

“Mae’r Canghellor yn ymwybodol bod bron i 20 y cant o gartrefi Cymru heb eu cysylltu i’r rhwydwaith nwy. Mewn ardaloedd gwledig fel Ceredigion, mae’r ffigwr yn codi i bron 80 y cant.

 

“Mae ymchwil gan yr ONS yn dangos bod Ceredigion wedi dioddef y cynnydd mwyaf ar draws Prydain yn ei biliau ynni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cynnydd cyfartalog o £863.

“Hoffwn ofyn i’r Canghellor gadarnhau a fydd yr ad-daliad a gyhoeddwyd heddiw yn berthnasol i gartrefi sydd heb eu cysylltu i’r prif rwydweithiau ynni?”

 

Cadarnhaodd y Canghellor yn ei ymateb i Ben Lake y bydd yr ad-dalid “yn cael ei gyflwyno drwy’r biliau trydan er mwyn datrys yr union broblem, sydd llawer yn fwy cyffredinol.


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2022-02-09 17:12:47 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.