Ben Lake AS yn ymuno â'r galwadau am Gynllun Digolledi Coronafeirws

fusion-medical-animation-EAgGqOiDDMg-unsplash.jpg

Mae Ben Lake, AS Ceredigion, wedi cefnogi ymgyrch trawsbleidiol gan ASau blaenllaw sy’n galw ar y Llywodraeth i gyflwyno Cynllun Digolledu Coronafeirws

Mae cefnogaeth y cyhoedd i'r ymgyrch yn parhau i dyfu, gyda dros 8,000 o aelodau'r cyhoedd wedi llofnodi'r ddeiseb.

Dywedwyd yn y llythyr a anfonwyd gan yr ASau at y Prif Weinidog ar 30 Mawrth ‘mae’r rhai ar reng flaen y frwydr yn erbyn coronafeirws yn arwyr’ ac maent am i’r cynllun adlewyrchu’r hyn sydd eisoes ar gael i’r Lluoedd Arfog.  Byddai’r cynllun yn cynnwys:

• cyfandaliad ymlaen llaw
• incwm gwarantedig i'w teulu
• taliadau plant i blant cymwys o dan 18 oed
• cyfraniadau tuag at gostau angladd

Daw’r alwad yn dilyn adroddiadau bod cannoedd o feddygon yn llai tebygol o ddychwelyd i’r rheng flaen neu gynyddu eu horiau oherwydd eu bod yn ofni na fyddai eu teuluoedd yn cael eu digolledu’n iawn os byddent yn colli eu bywydau, gyda’r newyddion bod dros 100 o staff y GIG bellach wedi marw ar ôl dal COVID-19.

Dylai'r Cynllun Digolledu Coronafeirws fod ar gael i deuluoedd y rhai sydd wedi'u nodi fel gweithwyr allweddol, yn enwedig staff y GIG a gofal cymdeithasol yn ogystal ag athrawon.

Dywedodd Ben Lake AS:

“Mae’r rhai sy’n gweithio ar y rheng flaen yng Ngheredigion a ledled y DU, sy’n rhoi eu hunain  mewn sefyllfa o beryg bob dydd er mwyn achub eraill, yn arwyr. Dylent wybod y byddai’r wladwriaeth yn helpu eu teuluoedd os daw hi i’r gwaethaf.

“Byddai'r Cynllun Digolledu Coronafeirws yn darparu sicrwydd a chysur i'r rhai sy'n peryglu eu bywydau yn wyneb COVID-19; dyma'r lleiaf y maent yn ei haeddu.

“Rwy’n falch o ychwanegu fy enw at yr ymgyrch hon, sy’n galw ar y Llywodraeth i gyflwyno’r cynllun iawndal tosturiol hwn yn ddi-oed. Mae dros 8,000 o aelodau o'r cyhoedd, 50+ ASau a phapur newydd cenedlaethol eisoes yn rhan o’r ymgyrch. Mae’n rhaid gweithredu nawr. ”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.