Datganiad gan Ben Lake AS
"Rwyf wedi derbyn nifer o negeseuon gan unigolion a busnesau sy'n pryderu am yr effaith ariannol y bydd yr argyfwng sy'n datblygu yn ei chael arnynt, a sawl cwestiwn am y cymorth sydd ar gael iddynt.
Rydym yn disgwyl i Ganghellor y DU gyhoeddi mesurau pellach heno i liniaru’r effaith ariannol y mae’r sefyllfa bresennol yn mynd i gael ar yr economi, a chyn gynted ag y bydd gennyf fanylion pellach byddaf yn darparu diweddariad pellach i chi. Mae'n bwysig pwysleisio fy mod yn credu bod angen i'r Llywodraeth fynd yn llawer pellach i gynnig cefnogaeth i'r rhai y mae COVID-19 yn effeithio arnynt, ac rwy'n codi’r materion hyn gyda Llywodraeth y DU ar hyn o bryd.
Mae'n debygol y bydd y sefyllfa'n datblygu ymhellach, ond yr hyn sy'n dilyn yw'r wybodaeth sydd gennym hyd yn hyn:
Unigolion
Yr wythnos diwethaf, cyflwynodd Llywodraeth y DU gyfraith newydd mewn perthynas â Thâl Salwch Statudol (SSP) a oedd yn weithredol o 13 Mawrth. I grynhoi, mae'r gyfraith:
- yn estyn SSP i'r rhai sy'n hunan-ynysu yn unol â chyngor iechyd y Llywodraeth; a
- yn addasu rheolau ESA (Employment Support Allowance) ac Credyd Cynhwysol i sicrhau bod gan bobl nad ydyn nhw'n gallu derbyn SSP hawl i daliadau o ddiwrnod cyntaf y cyfnod o hunan-ynysu, a bod yr hunangyflogedig neu'r rheini ar gontractau sero awr (zero hours contracts) yn gallu derbyn taliadau o'r cynlluniau hyn ar gyfer cyfnodau o hunan-ynysu.
Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu rhoi sicrwydd i unigolion cymwys y bydd ganddyn nhw hawl i dderbyn SSP os nad ydyn nhw'n gallu gweithio oherwydd eu bod nhw'n dilyn cyngor y llywodraeth mewn perthynas â COVID-19, gan gynnwys y rhai sy'n hunan-ynysu fel mesur rhagofalus heb symptomau. Efallai y bydd pobl ar gontractau sero awr yn gymwys i gael SSP yn dibynnu ar yr oriau a weithiwyd a'r incwm a dderbynnir.
Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn golygu y bydd pobl sydd wedi cael eu effeithio gan COVID-19, ac sydd angen cymorth ariannol, yn medru cael mynediad i'r system fudd-daliadau ar gyfer taliadau, heb yr angen i ddarparu tystiolaeth feddygol na mynychu asesiad gallu. Ni fydd y cyfnod aros am ESA (7 diwrnod) yn weithredol, a byddant yn daladwy o'r diwrnod cyntaf, ac mae gofynion chwilio am waith ac argaeledd gwaith sy’n rhan o gynllun Credyd Cynhwysol ddim yn berthnasol ar hyn o bryd. Hefyd, ni fydd hawlwyr hunangyflogedig sy’n cael eu heffeithio gan COVID-19, yn wynebu Llawr Isafswm Incwm (lefel incwm dybiedig) am gyfnod o amser yn rhan o gynllun Credyd Cynhwysol.
Busnesau
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf y byddai’r llywodraeth yn talu costau i fusnesau sydd â llai na 250 o weithwyr ar gyfer darparu Tâl Salwch Statudol i’r rheini sydd i ffwrdd o’r gwaith oherwydd COVID-19. Bore yma, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o £ 51,000 neu lai yn derbyn rhyddhad cyfradd busnes o 100%, a bydd tafarndai sydd â gwerth ardrethol rhwng £51,000 a £ 100,000 yn derbyn gostyngiad o £ 5,000 ar eu bil. Mae Cyllid a Thollau EM hefyd wedi sefydlu llinell gymorth ffôn i gefnogi busnesau a phobl hunangyflogedig sy'n poeni am fethu â thalu eu treth oherwydd COVID-19. Y rhif ar gyfer y llinell gymorth yw 0800 0159 559.
Credaf yn gryf fod angen i Lywodraeth y DU weithredu mesurau pellach i gefnogi unigolion a busnesau yn yr argyfwng hwn. Mewn cyfarfodydd yn San Steffan heddiw, byddaf yn pwyso ar yr angen am fwy o gefnogaeth i bawb y mae'r mesurau COVID-19 newydd yn effeithio arnynt trwy gynyddu cyfradd y Tâl Salwch Statudol, a'i ehangu fel ybod modd cefnogi gweithwyr sydd ar gontractau sero awr a'r hunangyflogedig. Yn ogystal, mae nifer o fusnesau wedi rhannu pryderon gyda mi ynghylch yr angen gefnogaeth ar gyfer talu biliau misol a morgeisi/rhent, a'r potensial i'r taliadau hyn gael eu hatal am gyfnod i leddfu'r baich ar unigolion a busnesau fel ei gilydd. Rwy'n gobeithio y bydd y Canghellor yn mynd i'r afael â'r materion hyn yn ddiweddarach heddiw, a byddaf yn sicrhau fy mod yn cyhoeddi diweddariad pellach cyn gynted ag y bydd gennyf unrhyw wybodaeth ychwanegol."