Datganiad gan Ben Lake AS:
"Rwy’n gwybod fod llawer ohonoch yn poeni'n fawr am y pandemig COVID-19, ac yn awyddus i gael eglurder ar y ffordd orau i ymateb, a pha gamau i'w cymryd.
Bydd y misoedd nesaf yn anodd i ni i gyd, ac mae'r argyfwng yn debygol o osod straen aruthrol ar ein gwasanaethau cyhoeddus a’n cymunedau. Mae’n hanfodol ein bod yn dilyn cyngor arbenigol cyrff swyddogol fel Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd wrth i'r sefyllfa ddatblygu.
Ar hyn o bryd, mae'r cyngor swyddogol yn glir: os ydych chi wedi datblygu naill ai tymheredd uchel neu beswch parhaus newydd, dylech aros gartref a hunan-ynysu am 7 diwrnod. Bydd hyn yn helpu amddiffyn eraill. Os yw’r symptomau hyn yn amlyygu eu hunain, peidiwch â mynd i feddygfa, fferyllfa neu ysbyty.Yn hytrach, ffoniwch 111 (Gwasanaeth Iechyd) os na allwch chi ymdopi â'ch symptomau gartref, os yw eich cyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw'ch symptomau'n gwella ar ôl 7 diwrnod. Am y tro, os ydych chi'n teimlo'n iawn, os nad oes gennych chi unrhyw symptomau, ac does gennych chi ddim rheswm i feddwl eich bod wedi bod mewn cysylltiad â'r firws, yna gallwch chi barhau â'ch trefn arferol.
Fodd bynnag, mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth frwydro yn erbyn y firws hwn, ac felly gwnewch yn siŵr eich bod yn golchi'ch dwylo yn rheolaidd, am o leiaf 20 eiliad. Defnyddiwch sebon a dŵr ar ôl cyrraedd adref neu i’r gwaith, ar ôl chwythu'ch trwyn, tisian neu beswch, neu cyn bwyta neu drin bwyd. Bydd hyn yn eich helpu i amddiffyn eich hun ac eraill.
Mae angen i bawb fod yn hollol wyliadwrus ynghylch dilyn y cyngor swyddogol. Mae ein gwasanaeth iechyd yn cael ei staffio gan unigolion sydd ag arbenigedd mewn achub bywydau, ac mae eu hymrwymiad i ofalu amdanom heb ei ail.
Wrth i'r sefyllfa ddatblygu, mae'n debygol iawn y byddant yn dod o dan bwysau anhygoel, ac felly mae'n bwysig ein bod ni’n helpu i gefnogi eu hymdrechion trwy gadw at gyngor yr awdurdodau iechyd yn unig – mae’n rhaid i ni osgoi rhannu gwybodaeth anghywir ar gyfryngau cymdeithasol.
Fe wnaf fy ngorau i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y platfform hwn yn ogytsal â rhannu unrhyw gyngor swyddogol newydd, ond mae'n werth cadw'r llygad ar y gwefannau canlynol hefyd:
- Gwybodaeth diweddaraf o Iechyd Cyhoeddus Cymru: https://icc.gig.cymru/…/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavi…/
- Gwiriwr Symptomau Coronafeirws COVID-19 Galw Iechyd Cymru: https://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/…/symptomc…/default.aspx…
- Cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ar hunan-ynysu: https://icc.gig.cymru/…/gwybodaeth-ddiw…/cyngor-hunan-ynysu/
Hoffwn ddiolch i holl staff ymroddedig y Gwasanaeth Iechyd am bopeth maent yn eu gwneud ar ein rhan, a gofyn eto i ni i gyd gefnogi eu hymdrechion i fynd i'r afael â'r afiechyd yma trwy ddilyn cyngor oddi wrth ffynonellau swyddogol, cadw at arferion hylendid cywir, a dangos tosturi tuag at ein gilydd - yn enwedig y rhai mwyaf bregus yn ein plith.
Byddaf mewn cysylltiad â’r awdurdodau lleol a Bwrdd Iechyd Hywel Dda wrth iddynt gydlynu’r ymateb i’r pandemig yn lleol, a byddaf yn cael fy mriffio gan Weinidogion Iechyd yn Llundain ar gamau nesaf Llywodraeth y DU ddydd Llun.
Os oes unrhyw un eisiau cysylltu er mwyn i mi godi mater penodol ar eu rhan, anfonwch e-bost ataf ar [email protected] neu ffoniwch fy swyddfa yn Llambed ar 01570 940 333. Oherwydd y nifer helaeth o negeseuon rwy'n derbyn ar gyfryngau cymdeithasol, mae'n well cysylltu â mi trwy e-bost neu ffôn os oes gennych fater brys i'w godi.
Bydd yn rhaid i ni i gyd wynebu heriau COVID-19 mewn rhyw ffordd, felly yn ogystal â gofalu am eich hun a'ch anwyliaid, meddyliwch am eraill hefyd, ystyriwch eich gweithredoedd, a byddwch yn garedig.