Elin yn galw am welliannau i' r gwasanaeth ambiwlans

Mae Elin Jones yn ymgyrchu dros welliannau i wasanaeth ambiwlans Ceredigion, sydd ar hyn o bryd ymhlith yr isaf o ran amseroedd ymateb. Yn ol yr AC lleol, mae angen cyflwyno system sy'n atal ambiwlansys lleol rhag cael eu llusgo'n ormodol o'n hardal i ddelio a galwadau mewn llefydd eraill.

 Ambiwlans ger Ysbyty Bronglais

Yn y Cynulliad yn ddiweddar, holodd Elin Jones benaethiaid yr ambiwlans a chynrychiolwyr undebau am ganlyniadau treial yng nghymoedd y De, lle'r oedd ambiwlansys sy’n seiliedig yn yr ardal wedi’u corlannu, gyda chriwiau yn dychwelyd i’w gorsaf ar ôl iddynt drosglwyddo cleifion i ysbytai mwy tu allan i’r ardal.

Cyn y treial, yn y cymoedd ac mewn ardaloedd gwledig bu beirniadaeth bod criwiau ambiwlans ynghlwm â delio ag argyfyngau ym mhrif ganolfannau trefol ar ôl trosglwyddo cleifion i ysbytai arbenigol megis Treforys, gan adael eu ardaloedd cartref yn brin o ambiwlansys. Mae’r system bresennol yng Ngheredigion hefyd yn golygu bod criwiau yn wynebu oriau gwaith blinedig gydag ychydig o seibiant, a thrafeilio hir adref ar ddiwedd y dydd.

Gofynnodd Elin Jones wrth Brif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans dros Gymru, Stephen Harrhy, i ystyried cyflwyno model newydd i ardal Ceredigion er mwyn sicrhau bod digon o wasanaeth ambiwlans i’r trigolion lleol.

Dywedodd Elin Jones, AC Plaid Cymru dros Geredigion;

"Cawsom sesiwn casglu tystiolaeth ddefnyddiol iawn, lle'r oedd cyfleoedd i aelodau’r cynulliad gwestiynu a holi arweinwyr y gwasanaeth ambiwlans ar rhai o’r problemau sy'n y system bresennol, yn ogystal â chael safbwynt undebau sy’n cynrychioli parafeddygon a staff eraill.

Cafwyd cyfaddefiad bod y gwasanaeth yng Ngheredigion ac mewn mannau eraill weithiau o dan straen oherwydd prinder staff, sy’n golygu mwy o faich ar y parafeddygon sydd ar ddyletswydd.

Mae hefyd yn hanfodol bod y gwasanaeth ambiwlans yn gwerthuso canlyniadau’r treial sydd ar y gweill ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf, sef criwiau a cherbydau yn dychwelyd ar ôl trosglwyddo cleifion i ysbytai mwy yn hytrach na chael eu tynnu i alwadau yn y dinasoedd. Mae’r canlyniadau yn ymddangos yn galonogol hyd yn hyn, o ran yr amseroedd ymateb yng nghymoedd y De, a lleddfu ychydig o’r pwysau llwyth gwaith sydd ar griwiau.

Rydw i’n credu y gallai’r model hwn fod o fudd i Geredigion. Yn rhy aml ar hyn o bryd mae criwiau o Lanbedr Pont Steffan, Cei Newydd, Aberystwyth ac Aberteifi yn treulio rhan fwyaf o’u horiau gwaith y tu allan i’w hardaloedd. Mae hyn yn cael tipyn o effaith ar y staff, ac yn gadael mannau yng Ngheredigion sy’n wirioneddol brin o wasanaeth ambiwlans pan mae eu hangen fwyaf."

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.