Mae Ben Lake AS wedi mynegi pryderon y gallai cynigion Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol rwystro cynaladwyedd y sector trafnidiaeth gymunedol yn ardaloedd gwledig Cymru.
Yn dilyn ymgyngoriad gan Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar drwyddedau trafnidiaeth gymunedol (Adran 19 a 22), fe wnaeth ASau drafod sgil effaith y cynigion mewn dadl yn San Steffan.
Ar hyn o bryd, mae cwmni sy’n gweithredu yn y Deyrnas Gyfunol ac sy’n derbyn taliad am ddarparu trafnidiaeth i deithwyr yn gorfod dal trwydded gweithredwr cerbyd gwasanaeth cyhoeddus neu drwydded cerbyd llogi preifat. Serch hynny, mae hawl gan gwmniau sy’n darparu trafnidiaeth ar sail di-elw wneud cais am drwydded yn unol ag Adran 19 ac Adran 22 o’r Ddeddf Drafnidiaeth 1985. Gan nad oes angen trwydded gweithredwr cerbyd gwasanaeth cyhoeddus ar ddeiliaid trwyddedau adran 19 a 22, nac ychwaith rheoliadau costus yn cynnwys rheoliadau safonau a chadwraeth y DVSA, mae eu costau rhedeg yn isel sy’n caniatau iddyn nhw fod yn gystadleuol o ran pris wrth gynnig am gytundebau cyhoeddus.
Mae amcangyfrifon diweddar gan Grŵp Gweithredu Trafnidiaeth Gymunedol Cymru yn awgrymu y gallai’r cynigion arfaethedig gael effaith ar 95% o gwmniau sy’n darparu tranifidaeth di-elw, gan olygu gwariant sylweddol i gwrdd â’r gofynion newydd. Gallai cwmniau a sefydliadau unigol wynebu costau ychwanegol sylweddol - £10,000 ar y lleiaf -ond gallai’r costau ymestyn i dros miliwn o bunnoedd.
Ar draws gorllewin Cymru, mae Trafnidiaeth Gymunedol yn darparu gwasanaeth hanfodol i nifer o sefydliadau di-elw megis eglwysi, ysgolion, grwpiau ieuenctid ac elusennau. Mae Ben Lake AS wedi codi pryderon sylweddol y gallai’r cynigion arfaethedig gael effaith andwyol ar wasanaethau o’r fath.
Tra’n siarad yn y Senedd, tynnodd Ben Lake AS sylw penodol at yr effaith allai’r cynigion gael ar bobl bregus, sy’n aml yn gwbl ddibynnol ar ddarpariaeth trafnidiaeth gymunedol.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Caiff cynlluniau trafnidiaeth gymunedol eu defnyddio fwyaf gan yr unigolion mwyaf bregus yn ein cymdeithas a chan bobl na fyddai’n medru teithio heb y ddarpariaeth honno, ac yn yr ardaloedd hynny lle nad yw gwasanaethau masnachol yn ymarferol bosib. Mae angen i Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol sylweddoli maint yr effaith y gallai’r cynigion arfaethedig gael ar bobl bregus, ac yn enwedig y rheiny sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.
“Nid y broses o gludo pobl o ddrws i ddrws yw’r unig fudd a ddaw trwy gynlluniau trafnidiaeth gymunedol – mae’n dod â phobl at ei gilydd, yn gwella eu hiechyd corfforol a meddyliol, yn taclo unigedd cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig ac yn darparu gwasanaeth lleol a chyfeillgar.
“Mae cyswllt anorfod rhwng trafnidiaeth ac iechyd ac rwy’n bryderus y gallai pobl golli mynediad at adnoddau lleol, cyfleusterau hamdden a chyfleoedd cyflogaeth petai’r cynigion yma’n cael eu gweithredu. Byddai colli’r mynediad hyn at wasanaethau yn cael effaith sylweddol ar les corfforol a meddyliol pobl. Rwy’n gobeithio y gwnaiff Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol roi ystyriaeth gofalus i’r dadleuon a gyflwynwyd yn ystod y ddadl, gan addasu eu cynigion yn unol â hynny.”
Mewn llythyr a dderbyniwyd gan Ben Lake AS yn dilyn y ddadl, dywedodd Gweinidog y Deyrnas Gyfunol dros Drafnidiaeth:
“Mae’r Adran yn cydnabod yr ansicrwydd yn y sector, ac mae’n hollol ymwybodol bod nifer o awdurdodau lleol a chyrff dyfarnu trwyddedau yn ansicr ynghylch sut i fynd yn eu blaen.
“Mae’r sector trafnidiaeth gymunedol yn unigryw i’r Deyrnas Gyfunol, ac mae’n enghraifft wych o gymunedau yn dod at ei gilydd er lles pawb. Mae yna gwestiwn cyfreithiol i’w ateb yma, ond mae swyddogion yn dadansoddi ymatebion yr ymgynghoriad ar hyn o bryd gyda’r bwriad o ddod o hyd i ddatrysiad, yn hytrach na gosod rhwystrau ychwanegol.”