AS Ceredigion yn gweld potensial fferyllfeydd cymunedol

Well_Pharmacy_Visit_09.07.2021.jpg

Ar ddydd Gwener 9 Gorffennaf, ymwelodd AS Ben Lake dros Geredigion â Well Pharmacy yng nghanol Aberteifi i glywed gan y staff am sut roeddent wedi delio â phandemig Covid, ac i ddeall mwy am y ffordd yr oedd fferylliaeth gymunedol yn newid. Well yn Aberteifi yw un o nifer o fferyllfeydd cymunedol yn Hywel Dda sydd wedi'u comisiynu i ddarparu brechiadau Covid yng ngorllewin Cymru. Maent hefyd yn darparu rhestr gref o ymgynghoriadau i ddiwallu anghenion iechyd y boblogaeth leol, ond maent yn awyddus i wneud mwy.

Yn dilyn yr ymweliad dywedodd, Ben Lake AS:

"Roedd yn bleser ymweld â Well Pharmacy Aberteifi i ddysgu mwy am y cyfraniad enfawr y mae ein fferyllwyr cymunedol wedi'i wneud yn ystod y pandemig. Rwy'n hynod ddiolchgar i’r fferyllwyr a'u timau ledled Ceredigion am eu gwaith caled yn ystod blwyddyn sydd wedi bod yn heriol iawn.

"Mae fferyllfeydd wedi chwarae rhan bwysig yn ymateb y GIG i Covid-19, ac wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r rhaglen frechu.   Credaf y bydd fferyllfeydd cymunedol yn chwarae rhan hanfodol yn ein hadferiad o'r pandemig ar yr amod bod cefnogaeth barhaus ddigonol gan y llywodraeth a'r bwrdd iechyd lleol, a byddant yn allweddol yn y ffordd yr ydym yn darparu gofal iechyd yn y dyfodol. "

Dywedodd Roisin Thomas-Hands, Rheolwr Rhanbarthol Gweithrediadau Well Pharmacy:

“Rydym yn ddiolchgar i Ben Lake AS am ymweld â ni yn Well Aberteifi er mwyn gweld â’i lygaid ei hun y ffordd yr ydym wedi camu ymlaen i fod yn rhan o raglen frechu Covid. Fel gweithwyr iechyd proffesiynol rydym wedi gweithio'n gyson ac yn ddiflino trwy'r pandemig i sicrhau bod gan bobl fynediad at feddyginiaethau ac yn awr at frechlynnau. Cydnabu Ben hyn yn y diolch a roddodd i'r tîm fferylliaeth gymunedol.”

Dywedodd Jo Sharp, rheolwr cangen Well yn Aberteifi:

“Mae Fferylliaeth Gymunedol yn newid. Mae llawer o fferyllwyr o'r farn bod darparu gwasanaethau ymgynghori ymhlith y darnau mwyaf gwerthfawr o’r swydd. Gwelodd Ben Lake botensial yr hyn a wnawn ond hefyd yr angen i fwy ohonom ni fferyllwyr gael cyfle i gael ein uwchsgilio fel presgripsiynwyr annibynnol. Rwy’n ddiolchgar am ei ddiddordeb i fy helpu i ddod yn fferyllydd-bresgripsiynydd annibynnol cyntaf Aberteifi. ”

Dywedodd Rhodri Thomas o Fferylliaeth Gymunedol Cymru:

“Mae tua hanner y gwaith o roi brechlynnau Covid mewn fferyllfeydd cymunedol wedi digwydd yn Hywel Dda. Maent wedi arwain y ffordd wrth ddefnyddio'r rhwydwaith fferylliaeth gymunedol i ddosbarthu brechlynnau mewn lleoliad diogel, cyfleus a hygyrch. Ein gobaith yw pan ddaw'r hydref for cymaint o'r rhwydwaith â phosibl yn cael ei ddefnyddio i ddarparu brechlynnau atgyfnerthu, am fod gan ein fferyllwyr cymunedol y sgiliau, y gofod a'r awydd i chwarae rhan mor llawn â phosibl wrth imiwneiddio Cymru. "


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2021-07-13 14:06:17 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.