Mae Ben Lake, AS Ceredigion wedi cymryd rhan yn Ail Ddarlleniad Mesur Ynni Cymunedol y Senedd yn ddiweddar, a siaradodd o blaid rheolau newydd er mwyn galluogi cynhyrchu ynni glân yn y gymuned.
Mae yna obeithion mawr am y buddion uniongyrchol y gallai ynni cymunedol eu cynnig, gan gynnwys swyddi medrus newydd, biliau ynni is a mwy o arian ar gyfer prosiectau lleol.
- Mae Ben Lake yn cefnogi dau gymal ym Mesur Ynni’r Llywodraeth – gyda’r nod o alluogi cymunedau lleol i ddefnyddio ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol yn eu cartrefi a’u busnesau, gan gadw arian o filiau ynni o fewn yr economi leol.
- Mae yna obaith mawr am y buddion uniongyrchol allai gael ei gynnig gan ynni cymunedol, sy’n cynnwys swyddi medrus newydd, gostyngiad mewn biliau ynni a mwy o arian i brosiectau lleol.
Tynnodd Mr Lake sylw at y posibilrwydd y gallai ynni cymunedol helpu i gyrraedd targedau mewn gostyngiad allyriadau.
Dywedodd Mr Lake: “Rwy’n falch i gefnogi cymalau ym Mesur Ynni’r Llywodraeth allai rymuso cwmnïau ynni cymunedol i werthi ynni glân sy’n cael ei gynhyrchu ganddynt yn uniongyrchol i bobl leol. Byddai hyn yn help i gryfhau’r economi leol. Rwy’n galw ar y Llywodraeth i gefnogi’r cymalau yma hefyd.”
Ynni cymunedol - mae ynni adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu gan brosiectau sy’n berchen i, ac yn cael eu rhedeg gan y gymuned - yn cyfrannu llai na 0.5% o gyfanswm capisiti cynhyrchu ynni’r DU. Yn ôl y Parliamentary Environmental Audit Committe, gallai’r sector gynyddu 12-20 gwaith erbyn 2023 gyda chefnogaeth iawn gan y Llywodraeth, gan gyflenwi pŵer i 2.2 miliwn o gartrefu ac arbed 2.5 tunnell o allyriadau carbon deuocsid yn flynyddol.
Mae adolygiad diweddar Net Zero, gan gyn weinidog hinsawdd, Chris Skidmore AS ac a gomisiynwyd gan y Llywodraeth yn cadarnhau “bod y sector ynni cymunedol wedi cael ei esgeuluso i raddau gan y llywodraeth” a’r prif argymhelliad i ddelio gyda hyn yw “dylai’r Llywodraeth ymrwymo i’r Mesur Trydan Lleol fyddai’n galluogi prosiectau ynni lleol i ddarparu ynni yn uniongyrchol i gartrefi a busnesau lleol.”
Mae grŵp trawsbleidiol o 320 ASau, yn cynnwys Ben Lake AS, yn cefnogi’r Mesur Trydan Lleol, ynghyd a dros 100 sefydliad cenedlaethol yn cynnwys Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Eglwys Loegr, yr RSPB, CPRE, WWF, Greenpeace a Chyfeillion y Ddaear.
Mae ASau cefnogol, ynghyd ag Arglwyddi a Barwnesau yn Nhŷ’r Arglwyddi, yn annog y Llywodraeth i gynnwys adrannau o’r Mesur Trydan Lleol ym Mesur Ynni’r Llywodraeth, y darn mawr cyntaf o ddeddfwriaeth ynni ers bron i 10 mlynedd a disgwylir iddo ddod yn gyfraith cyn yr haf.
Dangos 1 ymateb