Ymgyrchwyr yn diolch i Ben Lake AS am hyrwyddo ynni cymunedol

karsten-wurth-0w-uTa0Xz7w-unsplash.jpg

Mae'r grŵp ymgyrchu, Power for People, wedi estyn diolch i Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion, am gynnal dadl yn Nhŷ'r Cyffredin i hyrwyddo ynni adnewyddadwy cymunedol drwy greu 'Hawl i Gyflenwad Lleol' yn ôl y gyfraith. 

Yn ganolog i'r ddadl roedd cyfraith newydd arfaethedig, sy’n cael ei hadnabod fel y Mesur Trydan Lleol, y mae Mr Lake yn ei chyd-noddi ac sy’n cael ei chefnogi gan 212 o ASau. Nod y Mesur yw helpu i ailadeiladu economïau lleol wrth gynyddu cynhyrchu ynni glân. 

Pe bai'n dod yn gyfraith, byddai'r Mesur yn grymuso cwmnïau ynni lleol sy'n eiddo i'r gymuned i werthu trydan adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol yn uniongyrchol i gartrefi a busnesau lleol. 

Ar hyn o bryd, dim ond cwmnïau sydd wedi'u trwyddedu'n genedlaethol all werthu trydan i gwsmeriaid.   Mae cefnogwyr y Mesur yn dweud bod hyn yn golygu nad yw arian sy’n cael ei ddefnyddio gan bobl i dalu eu biliau ynni yn helpu i ailadeiladu economïau lleol a seilwaith ynni glân lleol.

Wrth ymateb i'r ddadl, dywedodd y Gweinidog Ynni, Kwasi Kwarteng AS, "Mae'n sicr yn rhywbeth y byddaf i fel y Gweinidog Ynni yn fodlon ymgysylltu ag ef a chael trafodaeth amdano ... Rwy'n credu, gydag ysbryd cydweithredol, y gallwn fynd yn bell iawn." 

Mae'r grŵp ymgyrchu, Power for People, yn galw ar ASau a'r llywodraeth i wneud y Mesur yn gyfraith ac maent yn arwain clymblaid gefnogol o sefydliadau gan gynnwys Ynni Cymunedol Cymru, Community Energy England, Community Energy Scotland, WWF, Greenpeace, Cyfeillion y Ddaear a'r RSPB. Mae 62 o awdurdodau lleol hefyd wedi addo eu cefnogaeth.  

Dywedodd Ben Lake, AS Ceredigion: "Byddai cyflwyno'r Hawl i Gyflenwi'n Lleol yn grymuso ac yn galluogi cwmnïau ynni cymunedol newydd i werthu ynni y maent yn ei gynhyrchu'n uniongyrchol i bobl leol a fydd yn cyflymu ein cyfnod pontio i ynni glân ac yn helpu i gryfhau economïau lleol. Byddai'r Mesur Trydan Lleol yn ymgorffori hyn yn gyfreithiol a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau ei fod yn llwyddo." 

Dywedodd Steve Shaw, Cyfarwyddwr Power for People: "Rydym yn ddiolchgar i Ben Lake am gynnal dadl ar y Mesur Trydan Lleol yn Nhŷ'r Cyffredin. Pe bai'n dod yn gyfraith, byddai'r Bil yn rhyddhau'r potensial enfawr ar gyfer seilwaith ynni glân newydd fyddai’n eiddo i'r gymuned a hynny yn hybu economïau, swyddi, gwasanaethau a chyfleusterau lleol mewn cymunedau ledled Ceredigion, Cymru a gweddill y DU." 

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.