AS Ceredigion yn lansio Arolwg Bancio Cymunedol i fudiadau lleol

Copy_of_Gwirfoddoli.png

Mae llawer o sefydliadau wedi rhannu pryderon gydag AS Ceredigion bod cau canghennau lleol wedi effeithio ar eu gallu i agor cyfrifon banc, newid llofnodwyr cyfrifon, tynnu arian o’r banc a rhoi arian yn y banc. O ganlyniad, mae llawer o gymdeithasau, elusennau a sefydliadau trydydd sector yn gorfod delio â chostau teithio uwch, materion diogelwch uwch a phroblemau llif arian a hynny i gyd oherwydd diffyg gwasanaethau bancio lleol.

Dywedodd Mr Lake: “Mae sawl sefydliad cymunedol wedi cysylltu â mi gyda phryderon am y newidiadau i’r ffordd y mae eu cyfrifon banc cymunedol yn cael eu gweinyddu a’r diffyg gwasanaethau bancio wyneb yn wyneb sydd ar gael iddynt yn lleol.”

“Rwyf wedi cael gwybod y bydd un banc yn cyflwyno newidiadau sylweddol i’w gyfrifon banc cymunedol, gan gynnwys codi ffi fisol o £5 a ffioedd ychwanegol am yr holl drafodion arian parod a wneir dros y cownter. Mae sefydliad cymunedol arall wedi egluro’r heriau y daethant ar eu traws wrth geisio newid llofnodwyr cyfrifon banc, proses a oedd yn syml iawn ychydig flynyddoedd yn ôl. ”

“Hoffwn ddeall maint y broblem i’n clybiau a’n cymdeithasau lleol yn well, ac er mwyn gwneud hyn byddwn yn ddiolchgar pe bai sefydliadau lleol yn rhannu eu profiadau trwy gwblhau fy arolwg byr ar-lein.”

Bydd yr arolwg ar-lein yn cau ar 1 Hydref 2021 a gellir ei gwblhau ar-lein: https://forms.gle/rYSYHX5Vae3jX7Tb8


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2021-09-03 12:23:15 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.