Ben Lake AS yn cefnogi ymgyrch Diwrnod Canser y Byd

04022020_WorldCancerDay.jpg

Mae Ben Lake AS yn cefnogi galwadau gan y Tasglu Canserau Llai Goroesadwy (Les Survivable Cancers Taskforce - LSCT) i ddod â chylch dieflig i ben. Cylch sydd wedi gweld goroesiad ymhlith y chwe chanser mwyaf marwol yn aros yn ei unfan dros y degawd diwethaf.

Cyfarfu Ben Lake AS ag aelodau elusennol y LSCT yn Nhŷ’r Cyffredin ar 4 Chwefror ar Ddiwrnod Canser y Byd.

Mae’r LSCT yn cynrychioli chwe chanser ‘llai goroesadwy’, yr ysgyfaint, yr afu, yr ymennydd, yr oesoffagws, y pancreas a’r stumog, gyda chyfradd goroesi o bum mlynedd yn 14% ar gyfartaledd oherwydd esgeulustod a thanariannu hanesyddol. Nod y Tasglu yw dyblu goroesiad y canserau hyn i 28% erbyn 2029.

Yn y digwyddiad, cyfarfu Ben Lake ag arbenigwyr canser a chleifion â phrofiad uniongyrchol o’r ‘canserau llai goroesadwy’ hyn. Dysgwyd am sefyllfa argyfyngus y bobl a gafodd ddiagnosis o'r canserau hyn a'r angen dybryd am newid sylweddol mewn buddsoddiad i ymchwil penodol er mwyn gwneud diagnosis mawr ei angen a datblygu triniaethau.

Mynychodd Ben Lake AS y digwyddiad a dywedodd: “Rwy’n falch o godi ymwybyddiaeth am y canserau llai goroesadwy ar Ddiwrnod Canser y Byd. Rydym wedi cymryd camau anhygoel mewn triniaeth a prognosis ar gyfer llawer o ganserau ac mae angen gweithredu nawr i gau'r bwlch canser marwol ar gyfer y canserau llai goroesadwy”.

Ychwanegodd Anna Jewell, Cadeirydd y Less Survivable Cancers Taskforce:

“Rydyn ni wrth ein bodd bod AS Ben Lake yn rhannu ein pryderon am yr anghydraddoldebau amlwg mewn canlyniadau canser.

“Mae yna rai canserau sydd wedi gweld cynnydd rhyfeddol o ran goroesi ond eraill sydd yr un mor farwol ag yr oeddent ddegawdau yn ôl. Ar y cyd, mae’r ‘canserau llai goroesadwy’ hyn yn cyfrif am hanner yr holl farwolaethau canser cyffredin yn y DU.

“Heddiw rydym yn galw ar lywodraethau’r DU i ymrwymo i ddyblu cyfraddau goroesi o 14% i 28% erbyn 2029 a hoffwn ddiolch i Ben Lake AS am gefnogi ein hymgyrch i gau’r bwlch canser marwol.”

Mae'r LSCT yn cynnwys Action Against Heartburn, the British Liver Trust, Guts UK, Pancreatic Cancer UK, The Brain Tumour Charity a’r  Roy Castle Lung Cancer Foundation

Ychwanegodd Sarah Lindsell, Prif Weithredwr The Brain Tumor Charity:

“Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl sy’n cael eu diagnosio â chanser llai goroesadwy, gan gynnwys y rhai â chanser yr ymennydd, yn cael eu gwadu o’r gobaith am iachâd. Dywedir wrth lawer mai dim ond misoedd sydd ganddyn nhw i fyw. Rhaid i hynny newid.

“Mae angen mwy o ymchwil ac ymdrech ymroddedig tuag at wella goroesiad y canserau hyn, fel bod llai o fywydau’n cael eu torri’n greulon o fyr a bod llai o deuluoedd yn cael eu difetha gan golled.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.