Clive Davies: Aber-porth a'r Ferwig

Graphics_Cyhoeddi_Ymgeiswyr_v2.png

Cefndir

  • Wedi'i eni a'i fagu yn Y Ferwig
  • Gyrfa mewn datblygu economaidd a thechnoleg gwybodaeth
  • Yn cymryd rhan mewn ystod eang o gyrff cymunedol a masnachol dros ardal eang
  • Pencampwr digidol Ceredigion
  • Wedi derbyn gwobr cynghorydd mwyaf gweithgar gan Blaid Cymru

Pam pleidleisio dros Clive?

"Hoffwn roi fy hun ymlaen fel ymgeisydd i gynrychioli pobl ward Penparc ac Aberporth yn yr etholiad ym mis Mai ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion.

Mae gennyf wreiddiau dwfn yn y ward. Ganwyd fi yn Aberteifi, a bu fy rhieni’n byw ym Mlaenannerch, yna yn y Ferwig cyn setlo yn Llangoedmor.

Pan oeddwn yn fyfyriwr coleg a phrifysgol, cyn graddio mewn Technoleg Gwybodaeth, fe weithiais yn R.A.E. Aberporth a hefyd yn ffatri jîns ‘Slimma’ yn Aberteifi. Yn ddiweddar rwy wedi bod yn helpu i ffurfio busnesau newydd a hybu defnyddio technolegau newydd er mwyn i drefi ledled Cymru allu gwneud penderfyniadau am eu dyfodol ar sail gwybodaeth gadarn.

Mae fy ymwneud â’r gymuned yn ystod y blynyddoedd diweddar wedi cynnwys cadeirio Neuadd Gymuned Hen Ysgol y Ferwig, sydd nawr wedi ei hail wneud yn drylwyr yn dilyn cais llwyddiannus am arian loteri, bod yn llywodraethwr ar y ddwy ysgol gynradd leol, Penparc a Llechryd, a chadeirio y grŵp gwrthweithio effaith llifogydd a ffurfiwyd yn ardal Llechryd. Rwy hefyd yn aelod o dîm gwylio cyflymder cymuned Penparc, ac yn gyfarwyddwr gwirfoddol gyda 4CG, cymdeithas sy’n cefnogi busnesau newydd ac sy’n darparu parcio am bris isel yn Aberteifi fel rhai o’i amcanion. Rwy’n un o ymddiriedolwyr Castell Aberteifi, sy’n ganolfan dreftadaeth bwysig yn ein tref leol, ac yn ymddiriedolwr gyda Cyngor ar Bopeth Ceredigion, sy’n rhoi cyngor ac arweiniad am sawl mater i rai sydd ei angen yn yr adegau anodd hyn.

Rwy wedi bod yn gynghorydd tref yn Aberteifi am y 10 mlynedd diwethaf, ac yn 2016-17 a 2020-21 cefais fy ethol yn faer. Rwy wedi llwyddo i roi ar waith nifer o brosiectau i gefnogi’r dref, gan gynnwys digwyddiadau newydd fel y parêd lanterni, trin Parc Sglefrio Aberteifi, creu App i’r dref a chynllun WiFi hefyd, un o’r rhai cyntaf yng Nghymru, mapiau newydd, darparu dadffibrileiddwyr ychwanegol ac arwyddion, a gwaith i hybu ymwelwyr ag Aberteifi i grwydro’r dref yn fwy. Fy nghynllun olaf yn 2021 oedd gwneud gwaith adfer ar y meysydd chwarae.

Yn 2017 cefais fy ethol yn gynghorydd Ceredigion dros ward Penparc, sy’n cynnwys Llangoedmor a Llechryd. Yn ystod y cyfnod hwn, yn ogystal â delio gyda gwaith achos o fewn y ward, fe ddes yn gadeirydd y pwyllgor trwyddedu ac yn bencampwr digidol dros y sir, gan gefnogi’r ymdrechion oedd ar droed i ddarparu gwasanaeth band eang ffibr drwy’r sir.

Yn 2018, fe fues i mewn seremoni yn Llundain i dderbyn gwobr y Great British High Street ar ran Aberteifi.

Yn 2019 cefais wobr gan Blaid Cymru am fod y cynghorydd mwyaf gweithgar drwy Gymru.

Byddai’n anrhydedd i gynrychioli pobl ward Penparc ac Aberporth ar y Cyngor Sir, ac rwy’n gofyn am eich pleidlais ar y 5ed o Fai."

Blaenoriaethau Clive

  • Cefnogi’r economi leol, gan gynnwys amaeth a thwristiaeth
  • Gofalu am amgylchedd ac etifeddiaeth ein glannau
  • Tai lleol i bobl leol
  • Parhau gyda’r agenda werdd er mwyn lleihau ein ôl troed carbon trwy gefnogi bwyd lleol cynaliadwy
  • Adnabod cyfleoedd o fewn y ddêl newydd Tyfu Canolbath Cymru ar gyfer:
  • Cynlluniau i’w datblygu yng ngodre'r sir
  • Gwaith, yn enwedig ar gyfer ieuenctid sydd â sgiliau

 

Manylion cyswllt
[email protected]
07970 980003
www.facebook.com/clivepenparc

Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Ymgeiswyr 2022-01-26 18:02:55 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.