Mae Ben Lake AS Ceredigion yn galw ar y Gweinidog Hinsawdd i gymryd camau i sicrhau bod cyllidebau carbon Prydain yn eu lle ar gyfer allyriadau sero erbyn 2050. Fel llofnodwr i Gytundeb Paris ar newid hinsawdd, mae gan Brydain gyfrifoldeb i wneud ei rhan yn ddigonol mewn gostwng arallyriadau carbon er mwyn cyfyngu cynhesu byd eang i 1.5˳C. Mae hyn yn golygu cyrraedd sero-carbon erbyn 2050. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, dim ond 80% o doriadau y mae cyllidebau carbon Prydain yn anelu ato erbyn 2050– ac mae rhagolygon i ragori ar y targedau yma o 2023 ymlaen.
‘Dyw Ben Lake ddim yn credu bod hyn yn ddigon da. Mae angen gweithredu ar fyrder yn syth i sicrhau y bydd Prydain yn cyrraedd sero-carbon erbyn 2050, ac yn cyfrannu i leihau allyriadau byd eang yn ddigonol er mwyn atal lefelau peryglus o newid hinsawdd. Os caiff hyn ei adael heb ystyriaeth, bydd poethder, sychder, lefelau môr yn codi a stormydd mwy garw sydd ynghlwm â thymheredd yn codi yn profi’n fygythiad difrifol i les dynol a sefydlogrwydd byd eang.
Yn ogystal â bod yn fuddiol i’r blaned, bydd trawsnewid i economi sero-carbon â photensial i wella bywydau dinasyddion gyda chartrefi cynhesach, awyr lanach a swyddi gwyrdd. ‘Dyw hyn ddim yn golygu bod Prydain yn gorfod dewis rhwng gwarchod yr hinsawdd a chefnogi yr economi. Mae ymchwil wedi dangos y gall gweithredu cyflym byd eang ar newid hinsawdd ddod â chynnydd economaidd uniongyrchol o USs26 triliwn yn fyd eang erbyn 2030. Mae’n rhaid i Brydain ymaflyd ym muddion di-carboneiddio yr economi a gwarchod ein planed.
Dywedodd Ben Lake:
“Rwy’n galw ar y Gweinidog Hinsawdd, Claire Perry, i gymryd camau yn awr i sicrhau bod Prydain yn cwrdd â’i hymrwymiad o dan Gytundeb Paris ac ar y llwybr sero-carbon cywir erbyn 2050. Mae angen i ni gynllunio ar frys nawr os ydym am gyrraedd y targed hwn a gwarchod ein hinsawdd.”