Trigolion Ceredigion yn cwrdd â’r AS i ofyn i’r Llywodraeth i osod newid hinsawdd, natur a phobl yn ganolog i adferiad economaidd Covid-19

ravi-roshan-_AdUs32i0jc-unsplash.jpg

Ar ddydd Mawrth, 30 Mehefin, cymerodd trigolion o bob rhan o Geredigion ran mewn lobi rhithiol o’r Senedd, yr un gyntaf erioed yn y DU a’r un fwyaf yn y byd.

Gwelwyd ASau o bob plaid yn cwrdd ag etholwyr mewn Lobi Rhithiol ‘Nawr yw’r Amser,’ a hynny ar yr un diwrnod ac y cyflwynodd y Prif Weinidog araith ar adferiad economaidd. Cymerodd ASau o bob cwr o’r DU ran mewn dros 280 o gyfarfodydd digidol ar blatfform cynadledda fideo Zoom, ar ôl i dros 13,000 o bobl – yn cynnwys 99% o etholaethau ar draws y DU – gofrestru i gymryd rhan.

Roedd y mynychwyr yn galw am adferiad teg a gwyrdd ôl COVID-19, gan fynnu rhoi cynllun buan ar waith i warchod hinsawdd a natur, tra’n darparu cymorth i’r pobl mwyaf bregus adre a thramor, a hynny cyn y bydd yn rhy hwyr.

Mewn pleidlais a gomisiynwyd gan y Gynghrair Hinsawdd gwelwyd bod dwy rhan o dair (67%) o’r cyhoedd Prydeinig yn credu ein bod wedi cyrraedd trobwynt yn ein hanes,  a’u bod am i’w AS lleol i gefnogi cynlluniau uchelgeisiol a chryf ar newid hinsawdd.

Yn y cyfamser, roedd yr un bleidlias yn datgelu prif flaenoriaethau y cyhoedd i’r llywodraeth yn ymwneud ag adferiad gwyrdd:

  • Cefnogi ffynonellau ynni adnewyddadwy glân (55%)
  • Ymrwymiad i awyr lân a lleihau llygredd (52%)
  • Gwarchod ac adfer natur (52%)
  • Buddsoddiad mewn swyddi gwyrdd (46%)
  • Cymhellion i gynorthwyo’r cyhoedd i leihau allyriadau carbon (46%)

Dywedodd Ben Lake AS:

“Mae ailadeiladu cryfach ar ôl feirws corona yn golygu ail gyflunio’r economi mewn modd sy’n gosod  mentrau hinsawdd a chynaliadwyedd  yn graidd, gyda’r nod o sicrhau byd tecach, mwy ffyniannus a mwy gwydn i ni gyd.

“Da oedd clywed oddi wrth etholwyr yng Ngheredigion ynglŷn â’u sylwadau i’r cyfeiriad hwn fel rhan o Lobi Rhithiol Nawr yw’r Amser, ac rwy’n edrych ymlaen i lobio’r Llywodraeth am weithredu brys ar y materion hyn.  Mae’n holl bwysig bod barn trigolion a chymunedau Ceredigion yn cyfrannu i weithrediadau  a wnaed ar lefel Cymreig a Phrydeinig, a bod y ddau yn adlewyrchu y sialensau penodol rydym yn eu hwynebu, ond hefyd yn deall sut y gallwn yn ein tro gefnogi ymdrechion o’r fath yn lleol.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.