Cefndir
- Cynghorydd Cymuned Beulah
- Athro yn Ysgol Bro Teifi
- Yn weithgar yn y gymuned, yn cefnogi digwyddiadau a mudiadau’r ardal
Pam pleidleisio dros Chris?
"Bydd yr etholiadau lleol yn cael eu cynnal ar 5 Mai ac mae ward etholiadol newydd wedi’i chadarnhau ar gyfer yr ardal hon - ward dwy sedd yn cynnwys Beulah, Llangoedmor, Llechryd, Betws Ifan, Bryngwyn, Cenarth, Cwm Cou, Llandygwydd a Phonthirwaun.
Rwyf yn byw yng Nghenarth gyda fy ngwraig a dau o blant sydd bellach yn eu harddegau. Rwy'n athro yn Ysgol Bro Teifi ac yn aelod gweithgar yn y gymuned, yn cynnwys gydag Eisteddfod Cenarth, Ysgol Gynradd Cenarth, Meithrinfa Nawmor, Capel Bach Cenarth ac yn rhan o ddau gwmni lleol, Siop y Ffrydiau Cyf a Cherbydau Cenarth Cyf.
Gofynnaf am eich cefnogaeth i gynrychioli ward Beulah a Llangoedmor ar Gyngor Sir Ceredigion. Pe byddwn yn cael fy ethol, byddwn yn ceisio sicrhau bod anghenion ein cymunedau yn cael eu hamlygu ar lawr y Cyngor. Mae yna nifer o feysydd lle mae fy nghefndir a’m profiadau yn fuddiol tuag at y rôl, yn cynnwys ym myd busnes, addysg, cyngor plwyf, chwaraeon a gofal i'r henoed. Byddai fy mhrofiadau eang a’r andabyddiaeth gref sydd gennyf o'r ardal leol yn arf mawr i’n helpu i wneud y gorau drosoch a bod yn gynghorydd effeithiol."
Blaenoriaethau Chris
- Cydweithio gydag asiantaethau perthnasol er mwyn edrych i gyflwyno mesurau i liniaru effeithiau llifogydd ar hyd yr afon Teifi. Lleihau ein hôl-troed carbon trwy sicrhau bod polisïau caffael y sector cyhoeddus yn lleol, yn dymhorol ac yn dod o ffynonellau cynaliadwy.
- Mae hybu’r economi wledig yn flaenoriaeth i mi. Os oes cyfleon da am waith o safon yn yr ardal, yna bydd hyn yn denu ac yn cadw’r bobl ifanc yn yr ardal.
- Ymgyrchu i sicrhau cartrefi fforddiadwy yn lleol, yn enwedig i bobl ifanc.
- Gwella cysylltedd band eang a ffôn symudol ar draws y ward.
- Cefnogi mesurau diogelwch pellach i sicrhau diogelwch cerddwyr a seiclwyr.
- Gwella'r gwasanaethau a'r adnoddau i'r henoed a'r bregus yn ein cymdeithas.
Manylion cyswllt |
[email protected] |
01239 710808 |
Dangos 1 ymateb