AS Ceredigion yn cwrdd â phlant sydd wedi colli eu golwg

Ben_Lake.png

Cyfarfu Ben Lake AS â phlant sydd â nam ar y golwg a’u teuluoedd mewn digwyddiad rhithwir a gynhaliwyd gan yr elusen Guide Dogs i glywed am eu profiadau o addysg a chefnogaeth arbenigol.

Mae ymchwil newydd gan Guide Dogs wedi canfod gostyngiad mewn hapusrwydd, annibyniaeth a hyder mewn plant sydd â nam ar y golwg dros y 12 mlynedd diwethaf. Canfu hefyd fod mwy na dwy ran o dair o rieni yn teimlo nad oedd digon o gefnogaeth i helpu rhieni a gwarcheidwaid ar adeg diagnosis nam ar y golwg eu plentyn.

Yn nodweddiadol, bydd plentyn sy'n gallu gweld yn dysgu trwy wylio a dynwared, ond yn lle hynny mae angen i blentyn â nam ar y golwg ddysgu strategaethau i gryfhau sgiliau bob dydd fel cerdded, gwisgo a llywio.

Mae Guide Dogs yn gwybod y gall plant a phobl ifanc sydd â nam ar y golwg gyflawni unrhyw beth gyda'r gefnogaeth gywir. Dywedodd Rachel, mam Nell sy’n bump oed, yn ystod y digwydd “Mae’r gefnogaeth gynnar yn mynd i helpu Nell i dyfu i fod yn oedolyn annibynnol sy’n ddall, ac yn y pen draw rwy’n credu mai dyna’r nod i bob rhiant.”

Ar ôl clywed gan Nell a phobl ifanc eraill sydd â nam ar y golwg a'u rhieni am yr anawsterau y maent wedi'u hwynebu wrth ddod o hyd i’r gefnogaeth gywir, mae AS Ceredigion wedi addo cefnogi gwaith Guide Dogs ar sicrhau bod gan bob plentyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i fyw bywyd annibynnol a gweithgar.

Dywedodd Ben Lake AS: “Roeddwn yn falch o fod wedi ymuno â’r digwyddiad diddorol hwn i glywed am eu profiadau o addysg a chefnogaeth arbenigol ac am waith addysg Guide Dogs gyda phlant a phobl ifanc. Rwy’n cefnogi ymdrechion y Guide Dogs i ymgyrchu dros well cefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd â nam ar y golwg. ”

Dywedodd Blanche Shackleton, Pennaeth Polisi, Materion Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd y Guide Dogs: “Mae Guide Dogs yn fwyaf adnabyddus am ein gwaith yn darparu partneriaethau cŵn sy'n newid bywyd, ond rydym hefyd yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â nam ar y golwg i gefnogi eu datblygiad a'u haddysg. Rydym yn gwybod bod angen gwneud mwy i roi gwell gefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd â nam ar y golwg.  Dyma pam y byddwn yn sefydlu comisiwn y flwyddyn nesaf sy'n cynnwys pobl ifanc, rhieni, gweithwyr proffesiynol ac arbenigwyr i archwilio'r gefnogaeth orau i blant a phobl ifanc sydd â nam ar y golwg. "

 

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.