Senedd Plant i gefnogi Cynhadledd Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig

ugur-akdemir-HbYnglDQmuo-unsplash.jpg

Mae rhith-Senedd Plant yn cael ei chynnal am 5yh ar ddydd Gwener 29 Hydref 2021 cyn cynhadledd COP26 Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.

Bydd 650 o ASau Plant, sy'n cynnwys plant rhwng 7 ac 11 oed (y tymor nesaf) o ysgolion cynradd ledled y DU, yn cynnal trafodaeth ar ystod o faterion gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, ymateb i Covid-19 a thechnoleg.

Mae Microsoft a Wakelet, y curadur cynnwys addysgol ar-lein, yn darparu'r platfform i'r plant i’w ddefnyddio ar gyfer y profiad unigryw hwn.

Mae Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake, yn annog plant yng Ngheredigion i gymryd rhan, ac mae wedi ysgrifennu at ysgolion cynradd lleol i annog disgyblion i wneud hynny.

Dywedodd Mr Lake: 

“Rwy’n awyddus i sicrhau cymaint o ymgysylltiad cymunedol â phosibl â Chynhadledd Newid Hinsawdd COP26 mis Tachwedd yn Glasgow. 

“Mae’n arbennig o bwysig bod pobl ifanc yn gallu lleisio eu barn, a bod llunwyr polisi yn eu hystyried wrth wneud penderfyniadau fydd yn cael dylanwad sylweddol ar eu dyfodol. I'r perwyl hwn rwy'n falch y bydd menter Senedd y Plant yn rhoi'r cyfle hwn i blant, ac rwy'n annog ysgolion yng Ngheredigion i enwebu disgyblion i ddod yn AS Plant am y dydd, fel y gallant gyfleu eu barn hwy a barn eu ffrindiau i'r drafodaeth ar ddyfodol y blaned. ”

Bydd y plant yn ymuno â galwad llif byw Microsoft Teams gyda phlant eraill o bob cwr o'r DU i siarad am gynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd. Felly mae angen i blant a enwebir fod yn gyffyrddus yn ymddangos ar gamera, a bydd ychydig o blant dethol hefyd yn cael cyfle i siarad ar ran eu dosbarth a'u hetholaeth yn y digwyddiad byw.


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2021-07-28 16:04:50 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.