Mae ffigurau newydd a ryddhawyd gan y glymblaid End Child Poverty wedi datgelu graddfa gynyddol tlodi plant ledled y wlad, hyd yn oed cyn i’r pandemig daro.
Mae’r ymchwil a wnaed gan Brifysgol Loughborough ar gyfer y End Child Poverty Coalition yn dangos bod 3,551 o blant yn gaeth mewn tlodi yng Ngheredigion yn ystod y flwyddyn ddiweddaraf (2019/20), sef 33% o blant.
Mae Ben Lake AS wedi ychwanegu ei lais at alwadau ar Lywodraeth y DU i gydnabod maint y broblem, gan ddweud:
“Os yw’r Llywodraeth am i’w chynlluniau ar lefeli’r wlad ddod yn realiti, mae angen iddi weithredu ar frys a llunio cynllun credadwy i roi diwedd ar dlodi plant. Os ydym am fyw mewn cymdeithas lle mae gan bob plentyn gyfle i lwyddo mae angen i ni fuddsoddi yn y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol.
Dylai'r cynllun yma i ddod â thlodi plant i ben gynnwys ymrwymiad i gynyddu buddion plant. Mae teuluoedd yng Ngheredigion eisoes yn ei chael hi'n anodd. Dylid diddymu’r toriad arfaethedig o £20 yr wythnos i Gredyd Cynhwysol ym mis Hydref, neu bydd sefyllfa wael yn mynd yn waeth fyth.
Byddaf yn mynd â’r neges hon i’r Senedd ac yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau bod pob plentyn yn fy etholaeth yn cael ei gefnogi i fod y gorau y gallant fod. ”
Dywedodd Judith Cavanagh, Cydlynydd End Child Poverty Coalition Coordinator:
“Gall pob un ohonom gytuno ar beth yw plentyndod da, iach a hapus. Ond heb gynllun cynhwysfawr i ddod â thlodi plant i ben byddwn yn parhau i weld niferoedd cynyddol o blant yn cael eu hamddifadu - yn profi cywilydd, arwahanrwydd cymdeithasol ac yn colli cyfleoedd i gymryd rhan lawn mewn bywyd yn yr ysgol a'r tu allan iddi. Rydym yn annog y Llywodraeth, fel rhan o gynllun i ddod â thlodi plant i ben, i flaenoriaethu cynyddu budd-daliadau plant a pheidio â chymryd arian oddi wrth deuluoedd yn yr hydref, gyda’u toriad arfaethedig o £20 i’r Credyd Cynhwysol."
Dangos 1 ymateb