Annog y Canghellor newydd i roi cyllido llywodraeth leol ar sylfaen gynaliadwy

Arian

Cynghorwyr Plaid Cymru yn annog y Canghellor newydd i roi cyllido llywodraeth leol ar sylfaen gynaliadwy.

Fe fydd cynnig gan y Cyng. Gareth Davies, wedi eilio gan y Cyng. Caryl Roberts, yn mynd ger bron Cyngor Sir Ceredigion Ddydd Iau 24ain Hydref yn gofyn i lywodraeth Llafur am gyllid tecach ar gyfer cynghorau lleol. Mae’n debyg i gynnig cafodd ei basio gan Gyngor Sir Gaerfyrddin ychydig wythnosau yn ôl.

Mae Cyngor Sir Ceredigion bellach £70m ar ei golled mewn termau real dros y ddegawd diwethaf ac mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i bob cyngor a'u staff, gyda llawer bellach yn agos at argyfwng ariannol. Mae angen cyllid refeniw ychwanegol ar frys ar gyfer gwasanaethau hanfodol fel Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Plant, Ysgolion, Priffyrdd a Diwylliant a Hamdden. 

Dywed Cynghorydd Gareth Davies,

“Ers imi fod yn gynghorydd yn 2004, ac yn enwedig yn y 12 mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi gorfod gwneud toriadau tro ar ôl tro er mwyn mantoli ein cyfrifon. Mae’r cyngor hefyd wedi gweithredu cynlluniau i wella effeithlonrwydd gwaith y Cyngor. Ond y gwir yw, rydyn ni wedi cyrraedd gwaelod y gasgen, ac rydyn ni’n chwilio am unrhyw arbedion posibl bellach. Mae’r sefyllfa’n drychinebus.”

Dywedodd eilydd y cynnig, Cyng Caryl Roberts,

“Mae maint yr arbedion a thoriadau mae’n rhaid i Lywodraethau Lleol eu gwneud yn dorcalonnus a hynny er mwyn gwarchod y gwasanaethau statudol yn unig. Os nad ydi’r Blaid Lafur am dalu dyledion mwy o Awdurdodau lleol mi fyddan nhw yn mynd yn fethdalwyr. I arbed hynny rhag digwydd, mae angen cyllido cynaliadwy a theg.” 

Yn ogystal â chynigion gan Gyngor Ceredigion a Chyngor Sir Gaerfyrddin, fe fydd Llefarydd Cyllid Plaid Cymru Heledd Fychan AS yn cynnal cynhadledd i’r wasg am 9.30yb Ddydd Mawrth 22ain Hydref cyn Datganiad Hydref llywodraeth y Deyrnas Gyfunol.

Bydd hi’n amlinellu galwadau’r blaid – nid yn unig ar Lywodraeth Lafur y DG, ond ar Lywodraeth Lafur Cymru hefyd, ar anghenion Cymru yn Natganiad yr Hydref.

Bydd dadl gwrthblaid Plaid Cymru yn cael ei chynnal ddydd Mercher 23 Hydref.

Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr.