Cefndir
- Wedi byw yn Nihewyd drwy ei hoes ac yn groten y wlad i'r carn
- Ffisiolegydd Cardiaidd o ddydd i ddydd gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda
- Yn un o wirfoddolwyr Banc Bwyd Aberaeron, yn elod o Eglwys Dihewyd ac wedi cymryd rhan mewn nifer o berfformiadau yn Theatr Felinfach
Pam pleidleisio dros Ceris?
"Mae ardal Llanfihangel Ystrad wedi bod yn bwysig iawn i mi ar hyd fy oes ac mae'r gymdeithas leol wedi fy siapio i fod y person ydw i heddiw.
Dwi’n meddwl ei fod yn bwysig iawn cael gwaed newydd, ifanc ar y Cyngor Sir er mwyn sicrhau bod syniadau a safbwyntiau gwahanol yn rhan o drafodaethau a phenderfyniadau'r Cyngor ac i sicrhau bod barn pobl ifanc yn cael ei gynrychioli'n effeithiol.
Rydw i’n berson ‘llawr gwlad’ onest a theg ac yn awyddus i weithio’n ddiwyd dros ein hardal o fewn y Cyngor ac yn y gymuned. Braint ac anrhydedd byddai’r cyfle i’ch cynrychioli fel Cynghorydd."
Blaenoriaethau Ceris
"Un o fy mlaenoriaethau os caf fy ethol yw rhoi llais i’r ifanc. Dwi’n teimlo ein fod yn aml yn genhedlaeth sy’n cael ei anghofio amdanynt. Mae llawer o benderfyniadau mae’r cyngor yn ei gwneud yn mynd i'n heffeithio am flynyddoedd, felly dwi’n meddwl ei fod yn bwysig fod yna waed ifanc i gynrychioli barn y to iau. Ni yw dyfodol ein sir a’n hardaloedd lleol.
Mae’n bwysig fod yn agored i wrando ar farn a dod i ddeall pryderon sydd gan drigolion lleol – nhw yw ein cymuned ac mae’n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd er lles ein cymunedau. Busnesau lleol, bach a mawr yw dyfodol ein hardaloedd, ac mae’n rhaid eu cefnogi er mwyn creu swyddi lleol fydd yn cynnal ein cymdeithas i'r dyfodol.
Blaenoriaeth arall i mi fydd sicrhau bod cartrefi addas ar gael i unigolion ifanc a'u teuluoedd yn ein hardal wledig. Mae hyn yn hynod bwysig er mwyn cadw’r unigolion yma yn lleol ac er mwyn sicrhau ffyniant ein hiaith a'n diwylliant.
Blaenoriaeth pwysig arall yw sicrhau fod gwasanaethau cyfannol cynhwysfawr ar gael i unigolion bregus a'r boblogaeth sy’n heneiddio yn ein cymunedau."
Manylion cyswllt: |
[email protected] |
07964 257986 |
@CerisJones16 |
Dangos 1 ymateb