Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, i gynnal cyfarfod cyhoeddus gyda Simon Thomas AC, ac aelod Cymru yn y 'Pwyllgor Brexit', Jonathan Edwards AS
Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ar 10 Tachwedd am 7.30yh yn Neuadd Rhydypennau, Bow Street i drafod y broses o Gymru’n gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae aelodau’r panel yn cynnwys Elin Jones, AC Ceredigion; Simon Thomas AC Canolbarth a Gorllewin Cymru a Jonathan Edwards AS yr aelod Cymreig ar ‘Bwyllgor Dylanwadol Dethol Gadael yr UE,’ a adnabyddir fel ‘Pwyllgor Brexit’.
Dywedodd Elin Jones AC,
“Pleidleisiodd Ceredigion gyda mwyafrif llethol i aros yn yr UE. Bydd y cyfarfod hwn yn rhoi cyfle i ni i gyd i ddod at ein gilydd i drafod y ffordd orau ymlaen i Geredigion a Chymru.
“Mae Simon Thomas a minnau yn falch iawn bod Jonathan Edwards, sydd wedi ymgymryd â’r rôl bwysig hon yn San Steffan, yn mynd i ymuno â ni i gael gyflwyno ei weledigaeth ef a chymryd rhan mewn trafodaeth anffurfiol. Mae croeso i bawb ddod i wrando ac i fynegi eu barn.”
Mae Pwyllgor Brexit, gyda Jonathan Edwards AS yn aelod ohono, yn cynnwys 20 o ASau – 16 o Loegr, 2 o’r Alban ac un yr un o Gymru a Gogledd Iwerddon. Bydd gan yr aelodau bŵer i alw ar nifer o dystion, gan gynnwys y Prif Weinidog a Gweinidogion ar Brexit, er mwyn casglu gwybodaeth ar y strategaeth orau yn dilyn y refferendwm ym mis Mehefin. Dywedodd Jonathan Edwards y bydd yn defnyddio ei sedd ef ar y pwyllgor i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli.
Dywedodd:
“Mae gan Gymru anghenion unigryw am fod ein heconomi’n cael ei gyrru gan allforion a manwerthu – rhywbeth nad yw’n wir am weddill y DG. Mae ein masnach gyda dim ond gwledydd yr UE ynghlwm â 200,000 o swyddi ac rydym yn masnachu hyd yn oed yn fwy gyda gwledydd y tu allan i’r UE na’r tu mewn iddi.
“Rwy’n parchu canlyniad y refferendwm ac yn derbyn y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond mae’n hanfodol nad yw Cymru’n colli ei haelodaeth o’r farchnad sengl o ganlyniad. Mae ffactor sydd cyn bwysiced â’n masnach gyda’r farchnad sengl sef y masnach rydd yr ydym yn elwa ohono o ganlyniad i 53 cytundeb masnach y farchnad honno gyda gwledydd eraill ledled y byd. Byddai colli hynny’n niweidiol tu hwnt i’n heconomi
“Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi awgrymu y bydd hi’n ceisio sicrhau cytundebau arbennig i’r bancwyr yn Ninas Llundain, felly nid oes rheswm pam na all hi barchu anghenion unigryw Cymru a sicrhau cytundeb tebyg i ni.”