Heddiw mae AS Ben Lake wedi annog Llywodraeth y DU i roi ystyriaeth lawn i ardaloedd fel Ceredigion fel rhan o'i strategaeth datgloi cyfyngiadau symud.
Yn ystod y sesiwn Cwestiynau Brys yn y siambr rhithiol heddiw, cydnabu Mr Lake y bydd profi eang ac olrhain “yn hanfodol” yn y frwydr i ymladd achosion o covid-19 yn y dyfodol. Byddai angen i system o’r fath fod yn “gwbl weithredol” cyn i’r DU godi'r cyfyngiadau yn llawn.
Anogodd Mr Lake yr Ysgrifennydd Gwladol i edrych ar y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan Gyngor Sir Ceredigion ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Aberystwyth fel ffordd o weithredu system o'r fath. Bydd cynnydd mewn profi ac olrhain cyswllt yn chwarae rhan bwysig yn y dyfodol yn yr ymdrech i atal y gadwyn drosglwyddo, a bydd angen eu cyflwyno ynghyd â mesurau pellhau cymdeithasol fel rhan o strategaeth gyfannol i reoli achosion o Covid-19.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Mae'n hanfodol bod unrhyw gynlluniau i adolygu cyfyngiadau symud yn ystyried profiadau siroedd fel Ceredigion, ac yn cydnabod bod yr achosion o Covid-19 wedi cyrraedd gwahanol gamau ym mhedair gwlad y DU. Bydd rhai ardaloedd yn parhau i fod yn fwy agored i niwed nag eraill o ganlyniad i ddatblygiad yr achosion yn ystod y don gyfredol, felly dim ond os oes system drylwyr a helaeth o brofi, olrhain cyswllt ac ynysu achosion cadarnhaol ar waith ym mhob sir y gellir cyflwyno unrhyw gamau datgloi.
“Er bod Llywodraethau’r DU a Chymru fel ei gilydd yn mireinio systemau olrhain cyswllt cenedlaethol, bydd angen iddynt gael eu hategu gan dimau olrhain cyswllt ac adnoddau phrofi lleol os ydynt am fod yn effeithiol.Am y rheswm hwn mae'n rhaid i'r Llywodraethau fabwysiadu dull o weithio ar y cyd gydag awdurdodau ac arbenigwyr lleol - gan gynnwys y Cyngor, y bwrdd iechyd a'r brifysgol - gan sicrhau bod yr ymdriniaeth newydd yn gwneud y defnydd gorau o'u hasedau a'u harbenigedd, yn ychwanegol at y sgiliau a'r adnoddau sydd ar gael yn lleol.
“Rhaid i awdurdodau lleol fod wrth wraidd y strategaeth newydd i reoli Covid-19. Fel y mae Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dangos yn ystod yr argyfwng hwn, mae'n anochel bod gan gyrff lleol ddealltwriaeth fanylach o'u poblogaethau na llywodraeth ganolog, a rhaid tynnu ar hyn os yw profion cyswllt ac olrhain am fod yn effeithiol. Rhaid i ddiogelwch y cyhoedd fod yn flaenoriaeth, a dylai fod yn sail i unrhyw benderfyniad a wneir mewn perthynas â sut a phryd y codir cyfyngiadau symud yn y pen draw.”
Gallwch wylio cyfraniad Ben yma: https://youtu.be/FyGsVeJPe_s