O ganlyniad i ddeiseb ar-lein a lofnodwyd gan dros 200,000 o bobl, daeth ASau o bob plaid ynghyd mewn dadl yn Neuadd San Steffan ddoe i daflu goleuni ar yr heriau sy'n wynebu bwytai, tafarndai, bariau, caffis a busnesau o fewn y gadwyn gyflenwi ledled y DU ar hyn o bryd.
Yn ystod ei gyfraniad i’r ddadl, pwysleisiodd Ben Lake AS bwysigrwydd y diwydiant lletygarwch i economi leol Ceredigion. Mae Ceredigion yn gartref i bron i 400 o fusnesau bwyd a llety, gan gynnwys 75 o dafarndai, a gyda'i gilydd mae busnesau lletygarwch yn cyflogi 4,500 o bobl yn y sir. Mae hyn yn cyfateb i dros 16% o'r holl weithwyr, heb gyfrif y nifer fawr o swyddi yn y gadwyn gyflenwi sy'n ddibynnol ar y sector, fel y rhai a geir mewn bragdai, cyfanwerthwyr bwyd, a busnesau llogi offer arlwyo.
Dengys ffigurau a gyhoeddwyd gan UK Hospitality bod oddeutu 41% o fusnesau lletygarwch wedi awgrymu y byddent yn mynd i’r wal erbyn canol 2021 a dim ond un o bob pum busnes sector sydd â digon o lif arian i oroesi y tu hwnt i fis Chwefror.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Wrth reswm mae’r rhaglen frechu yn cynnig rhywfaint o obaith y byddwn yn gweld lleihad sylweddol ar amhariad Covid eleni, ond mae busnesau lletygarwch ledled Ceredigion yn dweud wrthyf eu bod yn poeni’n fawr am eu rhagolygon ar gyfer goroesi i’r dyfodol.
“Rwy’n cefnogi galwadau ar i’r Trysorlys ddarparu arian ychwanegol fel y gellir cefnogi busnesau i adfywio unwaith y bydd cyfyngiadau wedi’u lleddfu, ac i oedi cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr ar gyfer gweithwyr sydd ar ffyrlo fel ffordd o leddfu’r baich ar fusnesau sy’n dal i fod, mewn llawer o achosion, wedi cau yn unol â’r gyfraith. Anogais y Trysorlys hefyd i ystyried ymestyn y gwyliau ardrethi busnes ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, yn ogystal ag ymestyn y cynllun lleihau TAW lletygarwch i 2022.
“Byddai’r mesurau cymorth hyn nid yn unig yn rhoi’r gefnogaeth angenrheidiol i fusnesau i oroesi’r pandemig, byddai hefyd yn osgoi sefyllfa drychinebus lle gallai busnesau sydd wedi derbyn cefnogaeth gan y Llywodraeth yn y gorffennol gael eu gorfodi i gau am byth - gan adael eu gweithwyr heb waith a chefnogaeth flaenorol y Llywodraeth yn ofer.”
Er na fydd unrhyw weithredu uniongyrchol o ganlyniad i'r ddadl hon yn Neuadd San Steffan, y gobaith yw y bydd yn rhoi mwy o bwysau ar Lywodraeth y DU i ystyried y cynnig o ddifrif.
Dangos 1 ymateb