Wyt ti rhwng 4 ac 11 mlwydd oed?
Wyt ti eisiau cymryd rhan yng 'Nghystadleuaeth Dylunio Cerdyn 'Dolig Ben Lake AS'?
Mae Ben Lake wedi lansio cystadleuaeth arbennig y tymor hwn, sef 'Cystadleuaeth Dylunio Cerdyn 'Dolig Ben Lake AS' a hynny i ddisgyblion oed cynradd ar draws Ceredigion. Bydd Ben yn anfon nifer fawr o gardiau unwaith eto eleni i ddymuno Nadolig Llawen i Aelodau Cynulliad, Aelodau Seneddol, sefydliadau, mudiadau a grwpiau cymunedol ac ystod eang o unigolion y mae Ben wedi cydweithio â hwy yn ystod 2018, ac mae'n chwilio am blant creadigol a thalentog i fynd ati i ddylunio clawr i'r cardiau.
Sut mae mynd ati i gystadlu?
Ewch ati i ddylunio eich cerdyn 'Dolig ar frys! Mae rheolau'r gystadleuaeth yn syml iawn:
1. Thema'r cerdyn 'Dolig: Ceredigion
2. Defnyddia ddarn o bapur maint A4
3. Rho dy enw llawn ac enw'r ysgol ar gefn y papur
Dylid anfon unrhyw geisiadau at Swyddfa Ben Lake AS erbyn 15 Tachwedd 2018
Bryndulais
67 Heol y Bont
Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion
SA48 7AB
Os am fanylion pellach, cysylltwch â Swyddfa'r Etholaeth ar 01570 940333.