Yn ystod tymor yr hydref cynhaliwyd ymgynghoriad gan y Cyngor Sir ar gau pedwar ysgol wledig.
Erbyn hyn, mae’r ymgynghoriad statudol wedi ei atal gan y Cyngor ac wedi ei drosi yn un anffurfiol. Y ddealltwriaeth yw y bydd rhaid ail-wneud yr ymgynghoriad yn llawn os am gau’r ysgolion yn y dyfodol. Am nawr, felly, mae’r broses statudol wedi ei hatal.
Diolch i’r nifer fawr ohonoch sydd wedi cysylltu i leisio pryderon am ddyfodol Ysgol Craig yr Wylfa, Ysgol Llanfihangel y Creuddyn, Ysgol Llangwyryfon, ag Ysgol Syr John Rhys.
Mae Ben ac Elin yn gefnogol iawn o’r ysgolion gwledig yma ac maent yn llwyr sylweddoli pwysigrwydd ysgolion lleol a’r manteision sydd i’r disgyblion, y staff, y Gymraeg a’r gymuned. Cyfarfu Elin a Ben gyda Llywodraethwyr pob un o’r ysgolion, a byddant yn barod yn y flwyddyn newydd i drafod eto gyda’r Cyngor wrth iddynt ystyried ym mhellach yr ysgolion yma.
Dangos 2 o ymatebion