Mae pryder yn Aberteifi yn sgil cyhoeddiad gan Grwp Newsquest fod swyddfa papur newydd y TivySide yn y dre yn cau ar 19 Chwefror. Bydd y papur yn cael ei ysgrifennu o swyddfa’r grwp yn Hwlffordd.
Dywedodd Elin Jones, AC Plaid Cymru Ceredigion;
"Mae’r newyddion yma’n ergyd go iawn i Aberteifi a De Ceredigion. Yn dilyn golygydd TivySide yn colli ei swydd bedair mis ar ddeg yn ôl, roedd gobaith o leiaf fod y swyddfa am barhau i aros yn y dref. Nawr, union 150 mlynedd wedi i’r TivySide gael ei sefydlu, ni fydd gan y papur unrhyw bresenoldeb swyddfa yn Aberteifi o gwbl. Er bod hyn yn ddatblygiad sydd i’w weld ar draws y sector papurau newydd, mae’n peri pryder mawr i ddyfodol y traddodiad balch o newyddiaduraeth sydd yn ardal Dyffryn Teifi.’’