Catrin M. S. Davies: Ceulan a Maesmawr

Catrin_MS_gwefan.png

Pam pleidleisio dros Catrin?

"Helo! Fy enw i yw Catrin M. S. Davies ac rwy'n falch i gyhoeddi y byddaf yn sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru yn ward Ceulan a Maesmawr yn etholiadau Cyngor Sir Ceredigion ar 5 Mai. Rwy'n byw yn Nhal-y-bont ac yn fy ngwaith bob dydd rwy'n gynhyrchydd a chyfarwyddwr rhaglenni teledu a radio.

Byddai'n fraint cael cynrychioli cymunedau ardal Tal-y-bont, Taliesin, Tre'r Ddol, Ysgubor-y-Coed, Eglwys-fach a Bont-goch ar y Cyngor Sir.

Mae'r gymuned wrth wraidd popeth rwy'n ei wneud. Rwy'n aelod o'r Cyngor Cymuned a Phwyllgor Neuadd Tal-y-bont. Dwi wedi bod aelod o Gorff Llywodraethol Ysgol Tal-y-bont ac Ysgol Gyfun Penweddig, a dros y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi trefnu digwyddiadau codi arian i apeliadau lleol a rhyngwladol.

Rwy'n edrych ymlaen, dros yr wythnosau nesaf, i gwrdd â chynifer o drigolion y ward â phosib, er mwyn dod i ddeall pa faterion sy'n bwysig i bobl leol. Mi fyddaf wedyn yn gallu llunio fy mlaenoriaethau pe bawn i'n ddigon ffodus o gael fy ethol."

Blaenoriaethau Catrin

  • Cefnogi mesurau diogelwch pellach i sicrhau diogelwch cerddwyr a seiclwyr ar draws y ward a chefnogi ymdrechion i ddatblygu llwybr seiclo a cherdded rhwng Aberystwyth a Machynlleth;
  • Gwthio am well mesurau diogelwch y tu allan i Ysgol Gynradd Tal-y-bont i ddiogelu disgyblion a rhieni wrth iddyn nhw gyrraedd a gadael yr ysgol;
  • Cydweithio gydag asiantaethau perthnasol er mwyn cyflwyno mesurau i liniaru effeithiau llifogydd yn y ward;
  • Gwella cysylltedd band eang a ffôn symudol ar draws y ward;
  • Ymgyrchu i sicrhau cartrefi fforddiadwy yn lleol, yn enwedig i bobl ifanc;
  • Lleihau ein hôl-troed carbon trwy sicrhau bod polisïau caffael y sector cyhoeddus yn lleol, yn dymhorol ac yn dod o ffynonellau cynaliadwy;
  • Annog a chefnogi unrhyw un sydd eisiau ymwneud â materion y cyngor i gael eu clywed a’u cynrychioli.

 

Manylion cyswllt:
[email protected]
07866 452287
@catrinms

Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Ymgeiswyr 2022-03-31 20:22:34 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.