Catrin Miles: Teifi

6.png

Cefndir

"Fel un o drigolion ward Teifi fy hun, dwi’n gyfarwydd a nodweddion yr ardal. Mae cynllun amddiffyn anneddau ar lan yr afon Teifi rhag lifogydd yn flaenoriaeth. Fel cynghorydd profiadol eisteddaf ar sawl corff sy’n ymdrechu i wella bywydau unigolion trwy gefnogi cyfleusterau, busnesau ac isadeiledd y dref."

Pam pleidleisio dros Catrin?

"Ers 2008 dwi’n cynrychioli ward Teifi ar Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Aberteifi.  Ers 2017 dwi hefyd yn aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes & Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth.  Bu’n anrhydedd cynrychioli Aberteifi fel Maer y dref, 2011-13 a dwi’n frwd dros yr ardal a’i phobol. Mae nifer o heriau difrifol yn wynebu pawb y dyddie yma a dwi’n awyddus i barhau gyda’r gwaith pwysig o fod yn eiriolwr gweithgar ac yn lais cryf, gonest a brwdfrydig dros drigolion ward Teifi am y 5 mlynedd i ddod."

Blaenoriaethau Catrin

"Un o flaenoriaethau ein cymdeithas yw addysg: mae’n gwireddi potensial plant, pobl ifanc ac unigolion o bob oedran, yn agor drysau a’u harwain at fywydau cyflawn. Dwi’n falch i gefnogi 2 ysgol y dref fel llywodraethwr, i gydlynnu Partneriaeth Canol Tref Aberteifi, cyfrannu at brosiect datblygu’r Pwll Nofio a nifer fawr o sefydliadau lleol.

Braint oedd eistedd ar grwp llywio wnaeth sicrhau bod Canolfan Iechyd newydd sbon yn Aberteifi a ganddo gyfleusterau “unfed ganrif ar hugain”.

Yn ystod y 2 flynedd heriol dan gysgod Covid, roedd fy ffocws yn gryf ar ddiogelu gwasanaeth di-dor i’n plant a phobl ifanc mewn addysg, sicrhau bod ein trigolion bregus yn derbyn bob cymorth yn ystod y cyfnod clo a bod ein busnesau annibynnol yn goroesi.

Gofynnaf am y cyfle i barhau â’r gwaith pwysig o gynrychioli ward Teifi ar y 5ed o Fai."

Manylion cyswllt
[email protected]
01239 613637
 

Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Ymgeiswyr 2022-01-26 18:45:49 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.