Cefndir Catherine
- Cynghorydd Sir dros ward Tregaron ers 2004
- Cadeirydd Cyngor Tref Tregaron 2021/2022
- Trysorydd ac Ymddiriedolwr Canolfan Deulu Tregaron
- Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Henry Richard Chair of Governors at Ysgol Henry Richard
Pam pleidleisio dros Catherine
"Bydd yr etholiadau lleol yn cael eu cynnal ar 5 Mai ac mae ward etholiadol newydd wedi’i chadarnhau ar gyfer yr ardal hon sy’n cynnwys Tregaron, Pontrhydfendigaid a Ffair-Rhos.
Mae fy ngwreiddiau'n ddwfn yn Nhregaron, ardal Pontrhydfendigaid ac Ystrad Fflur ac rwy'n cynrychioli ward Tregaron ar y Cyngor Sir ers 2004.
Wrth wynebu Covid yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydyn ni i gyd wedi sylweddoli pa mor bwysig yw’r ardal leol, a chryfder ein cymuned. Sefydlais rwydwaith yn ystod y pandemig er mwyn sicrhau cyswllt i unrhyw un oedd angen cymorth. Roedd hwn yn weithredol dros y ward gyfan gan gydweithio gyda’r Cyngor Tref, Capel Bwlchgwynt, Eglwys St. Caron a’r Orsaf Frigâd Dân a llu o wirfeddolwyr lleol.
Rwy'n awyddus i barhau gyda’r gwaith pwysig o fod yn eiriolwr gweithgar ac yn llais cryf, gonest a brwdfrydig dros drigolion ward Tregaron ac Ystrad Fflur am y 5 mlynedd nesaf."
Blaenoriaethau Catherine
- Gwella a datblygu cyfleoedd i fusnesau bach annibynnol er mwyn cryfhau'r economi leol.
- Cefnogi a hyrwyddo'r adnoddau a'r cyfleisterau diwylliannol arbennig sydd eisoes gyda ni ym Mhontrhydfendigaid a'r ardal ehangach.
- Lleihau ein hôl-troed carbon trwy sicrhau bod polisïau caffael y sector cyhoeddus yn lleol, yn dymhorol ac yn dod o ffynonellau cynaliadwy.
- Cydweithio gyda phartneriaid lleol er mwyn creu gardd gymunedol yn Nhregaron.
- Ymgyrchu i sicrhau cartrefi fforddiadwy i bobl leol yn eu milltir sgwâr.
- Cefnogi datblygiad Cylch Caron: adnodd i'r ardal gyfan gyda chyfleusterau modern i sicrhau y gofal gorau i bawb, gan gynnwys fflatiau gofal ychwanegol i sicrhau bod preswlwyr yn gallu parhau i fyw'n annibynnol.
- Ymestyn Llwybr Ystwyth a chefnogi rhagor o fesurau diogelwch i sicrhau diogelwch cerddwyr a seiclwyr.
Manylion cyswllt: |
[email protected] |
01974 298700 |
Dangos 1 ymateb