Caryl Roberts: Trefeurig

Caryl_Roberts.png

Cefndir

  • Mae Caryl wedi byw yn Nhrefeurig ers deng mlynedd.
  • Mae ganddi fab yn Ysgol Penrhyn-coch, llysfab ym Mhenweddig a gefeilliaid ym meithrinfa Gogerddan.
  • Mae ganddi radd yn y gyfraith, ac mae'n gweithio i Undeb Amaethwyr Cymru yng Ngogerddan yn darparu cymorth a gwasanaethau i aelodau.
  • Mae'n brysur o fewn y gymuned - does dim yn well ganddi na gweld problem a rhoi cynnig ar ei ddatrys. Yn ystod Covid sefydlodd grwp cerdded i helpu dod â rhieni newydd ynghyd.

Blaenoriaethau Caryl

"Rwy'n benderfynol o sicrhau fod y Cyngor yn gweithio drostom ni ac yn atebol i etholwyr.

Credaf fod gen i rywbeth i'w gynnig. Mae angen syniadau newydd, ac fe ddylai'r Cyngor gynrychioli pob rhan o'n cymuned. Gallaf ddod ag egni a phersbectif newydd i'r rôl.

O gael fy ethol, byddwn ar gael i bawb - yn llais i breswylwyr lleol - a byddwn yn dosbarthu cylchlythyr rheolaidd i ddiweddaru ar faterion lleol a chadw mewn cysylltiad."

 

Manylion cyswllt
[email protected]
instagram.com/carylgruffroberts

Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Ymgeiswyr 2022-03-22 16:36:53 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.