Carl Worrall: Aberystwyth Penparcau

Carl_Worall_Gwefan.png

Cefndir

“Rwyf wedi byw ym mhentref Penparcau ar hyd fy oes ac wedi gwneud cymaint o ffrindiau dros y blynyddoedd. Rwyf bob amser wedi meddwl un diwrnod y byddwn yn cynnig fy hun i gynrychioli Penparcau fel Cynghorydd Sir a nawr rwy’n credu bod yr amser yn iawn.

Credaf fod gennym bentref i fod yn falch ohono a byddai’n anrhydedd i mi eich cynrychioli fel Cynghorydd dros Benparcau. Bydd pobl sy'n fy adnabod yn gwybod y byddaf bob amser yn rhoi Penparcau yn gyntaf."

Blaenoriaethau Carl

“Rwy’n credu bod y ffordd fawr sy’n arwain i Aberystwyth yn berygl i bawb a thros y blynyddoedd rwyf wedi gweld pobl ac anifeiliaid anwes yn cael eu taro drosodd ac yn teimlo bod rhaid gwneud rhywbeth i arafu’r ffordd hon.

Rwyf wedi siarad â Phrifathro Ysgol Llwyn yr Eos ac mae’r ddau ohonom yn cytuno bod yr ysgol yn rhan fawr o’n cymuned ac os caf fy ethol byddaf yn gweithio’n agos gyda’r ysgol ac yn rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

Rwyf wedi siarad â phobl sy’n cynnal gwahanol brosiectau ym Mhenparcau ac rydym i gyd yn cytuno y dylem geisio darparu mwy o weithgareddau i’r hen a’r ifanc yn ein cymuned.”

 

Manylion cyswllt
07980 746006
[email protected]

Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Ymgeiswyr 2022-03-01 17:34:01 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.