Ben Lake AS yn ymuno â’r alwad am fwy o gefnogaeth i ofalwyr di-dâl yn ystod Wythnos Gofalwyr 2023

Mae Ben Lake AS wedi atgyfnerthu ei gefnogaeth i ofalwyr di-dâl yn ystod dadl seneddol yn San Steffan heddiw gan alw am well cefnogaeth ariannol ac ymarferol.

Mae ymchwil newydd sydd wedi’i ryddhau yn ystod Wythnos Gofalwyr 2023 yn dangos:

  • Bod hanner poblogaeth y DU wedi cael peth profiad o ddarparu gofal di-dâl i berthynas neu ffrind hŷn neu anabl.
  • Mae bron i dri chwarter y bobl â phrofiad o ofalu heb nodi eu hunain fel gofalwyr di-dâl - bron i 19 miliwn ar draws y DU.
  • Mae bron i dreian o bobl yn dweud bod darparu gofal di-dâl wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd a’u lles – bron i 8 miliwn o bobl ar draws y DU.

Mae dros 7,000 o ofalwyr di-dâl yng Ngheredigion (10.5% o’r boblogaeth), a gyda’i gilydd maent yn gwneud cyfraniad mewn termau ariannol o £700 miliwn y flwyddyn.

Mae Ben Lake AS yn un o nifer o ASau trawsbleidiol ac elusennau sy’n galw am fwy o weithredu gan y Llywodraeth mewn cefnogaeth ariannol ac ymarferol i ofalwyr.  Ynghynt yn yr wythnos mynychodd Mr Lake ddigwyddiad seneddol yn San Steffan i gefnogi Wythnos Gofalwyr 2023.

Yn dilyn y ddadl dywedodd Ben Lake AS:

“Yng Ngheredigion yn unig mae’n gofalwyr di-dâl yn cyfrannu gwerth rhyw £700 miliwn y flwyddyn.  Mae hyn yn gyfraniad anhygoel, ac a bod yn onest, mae’n sicrhau nad yw’r system iechyd a gofal lleol yn dymchwel yn wyneb y galw cynyddol.

"Mewn arolwg barn a gynhaliwyd ynghynt eleni, dywedodd rhyw 84% o’r rhai a holwyd y dylai gofalwyr di-dâl dderbyn cymorth ariannol ychwanegol.  Mae’n amlwg bod cefnogaeth eang i’r farn y dylid ychwanegu at y gefnogaeth mae gofalwyr di-dâl yn ei dderbyn.  Wrth ystyried y cyfraniad o £162 biliwn a wneir gan ofalwyr di-dâl yn flynyddol ar draws Lloegr a Chymru - £700 miliwn yng Ngheredigion yn unig - mae’n hen bryd i ni edrych eto ar lwfans gofalwyr a’r cymorth ariannol uniongyrchol maent yn eu derbyn.”


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2023-06-15 17:04:47 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.