Mae’n Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr ar ddydd Iau 26 Tachwedd; diwrnod sy’n dod â sefydliadau o bob rhan o Gymru ynghyd i estyn llaw i ofalwyr gyda gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth.
Thema eleni yw Gwybod Eich Hawliau. Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar bob agwedd ar ofalu, gan effeithio ar allu gofalwyr i gael cymorth a gwasanaethau, a’u hiechyd corfforol a meddyliol. Mae llawer yn gofalu am y tro cyntaf, tra bod y rhai sydd wedi bod yn gofalu am gyfnod yn wynebu mwy o heriau a phwysau nag erioed o'r blaen. Ni fu erioed yn bwysicach i ofalwyr fod yn wybodus ac yn ymwybodol o’u hawliau.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar bob agwedd ar ofalu, gan effeithio ar allu gofalwyr i wasanaethau a gweithgareddau fyddai o gymorth, yn ychwanegol at eu hiechyd corfforol a meddyliol. O ganlyniad, mae ein gofalwyr yn fwy ynysig nag erioed o'r blaen.
“Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr eleni, rhaid i ni i gyd chwarae rôl wrth helpu i adnabod a chefnogi pobl sy'n gofalu am anwyliaid sâl, eiddil neu anabl a sicrhau eu bod yn cael cyngor a gwybodaeth am y gefnogaeth y gallant ei hawlio mor gynnar â bosibl.
“Mae hefyd yn bwysig dathlu cyflawniadau gwych gofalwyr, a’u hymdrechion anhygoel yn ystod amseroedd mor heriol. Rwyf am ddiolch yn arbennig i ‘Gofalwyr Ceredigion Carers’, sydd wedi cynnig cefnogaeth foesol ac ymarferol amhrisiadwy, a heb hynny byddai pobl ledled y sir mewn sefyllfa gwaeth o lawer heddiw. ”
Er mwyn eich helpu i wybod beth allwch ei hawlio, gallwch ddarllen y canllaw Gofalu am rywun diweddaraf, sy'n rhoi darlun llawn i ofalwyr o'r gefnogaeth ymarferol ac ariannol sydd ar gael iddynt bob blwyddyn. Gellir archebu'r canllaw 2020-21 diweddaraf o shopcarersuk.org. Gellir gweld fersiwn electronig o'r canllaw yn www.carersuk.org/LAS