Mae Plaid Cymru wedi galw ar i Lywodraeth Cymru roi’r taliad bonws £500 i bob gofalwr a staff cartrefi gofal.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar 1 Mai y bydd pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn cael bonws ariannol o £500 yr un ar gost o £32.2m. Fodd bynnag, mae’r gofal a ddarperir gan y 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru yn rhoi gwerth a amcangyfrifi fel £8.1bn i economi Cymru, ond am nad ydynt wedi eu cofrestru fel gofalwyr cymdeithasol, ni fyddant yn derbyn yr un taliad ariannol â gofalwyr taledig.
Mae Plaid Cymru wedi holi pa gydnabyddiaeth a fydd i ofalwyr di-dâl nad ydynt yn gymwys am y cynllun.
Dywedodd Ben Lake AS y dylai gofalwyr di-dâl a’r rhai nad ydynt ar y gofrestr gael tâl cyfartal a’r un gydnabyddiaeth â gofalwyr taledig, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddilyn yr un agwedd â Llywodraeth yr Alban.
Cynigiwyd taliadau yn yr Alban o £230.10 fel rhan o ddeddfwriaeth frys y coronafeirws gan Lywodraeth yr Alban ac, os caiff ei gymeradwyo gan ASA, caiff ei dalu’n awtomatig i 83,000 o ofalwyr cymwys yn yr Alban ym mis Mehefin.
Meddai Elin Jones AS:
“Un peth y mae’r pandemig ofnadwy hwn wedi’i ddangos inni yw pa mor hanfodol a gwerthfawr yw’n gweithlu gofal cymdeithasol. Rhaid i ni ddysgu o hyn a sicrhau bod gan y gweithlu’r adnoddau sydd eu hangen arnynt, eu bod yn derbyn yr hyfforddiant angenrheidiol a’u bod yn cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi am yr hyn y maent yn ei gyflawni.”
Dywedodd Ben Lake AS:
“Dylai’r holl staff sy’n gweithio mewn lleoliad cartref gofal a phob gofalwr di-dâl dderbyn y bonws o £500 a addawyd i ofalwyr cofrestredig.
“Rhaid i ofalwyr di-dâl yng Nghymru a’r rhai nad ydynt ar y gofrestr gofal gael cydraddoldeb cydnabyddiaeth oherwydd mae’r gofal a roddant yr un mor anhunanol, a’r un mor werthfawr â’r hyn a roddir gan ofalwyr taledig a’r rhai sydd ar y gofrestr.
“Mae glanhawyr a staff arlwyo mewn cartrefi gofal yn peryglu eu diogelwch eu hunain bob dydd y maent yn mynd i’w gwaith. Maent yn haeddu cael eu trin fel aelodau cyfartal o’r tîm o bobl sy’n rhedeg cartrefi gofal a dylid eu cynnwys yng nghynllun taliadau bonws y Senedd.
“Taliad unwaith-am-byth yw’r lleiaf y gallwn roi i ddangos i weithwyr gofal ein bod yn rhoi gwerth arnynt, ond yn y tymor canol, rhaid i ni edrych eto ar y modd yr ydym yn trin staff gofal ac yn eu talu. Mae Plaid Cymru wedi galw am i’r holl ofalwyr a gweithwyr iechyd dderbyn codiad cyflog parhaol
Ychwanegodd Elin Jones AS:
“Mae’r pandemig hwn wedi ein gorfodi i edrych ar ba swyddi sydd yn ein cymdeithas yn hanfodol, a bod y rhai sy’n cefnogi ac yn gofalu am y mwyaf bregus yn ein cymdeithas yn haeddu cael eu cydnabod am y cyfraniad rhyfeddol maent yn wneud.”
Os ydych chi'n cytuno, llofnodwch ddeiseb Plaid Cymru:
https://www.plaid.cymru/give_carers_and_all_care_home_staff_the_500_bonus