Mae cynrychiolwyr Plaid Cymru o Geredigion a Sir Gâr wedi galw heddiw am gynllun o welliannau taer i’r heolydd sydd yn cysylltu Aberteifi a Chaerfyrddin mewn deiseb sydd yn adleisio rhai o bryderon mwyaf hir sefydlog trigolion yr ardal.
Anogwyd Llywodraeth Cymru i gywiro flynyddoedd o dan-fuddsoddiad yn y rhwydwaith gan Elin Jones AC a Jonathan Edwards AS, a mynnodd y ddau y dylai’r heolydd sydd yn rhedeg rhwng Aberteifi, Castell Newydd Emlyn, a Chaerfyrddin cael blaenoriaeth o hyn ymlaen ar unrhyw gynllun arall o fuddsoddiad isadeiledd.
Erbyn hyn, mae natur gul a throellog y ffordd – yn enwedig yr A484 a’r B4333 – wedi bod yn gŵyn cyffredinol yn yr ardal leol ers sawl blwyddyn, ac er iddi ddioddef nifer gynyddol o ddamweiniau traffig yn ddiweddar prin iawn o sylw, llai fyth o wariant, y mae’r ffordd wedi derbyn o Lywodraeth Cymru.
Er i gynrychiolwyr lleol y Blaid cydnabod bod rhannau o’r rhwydwaith lleol wedi bod yn dyst i welliannau sylweddol, pwysleisiwyd bod yr heol rhwng Aberteifi a Chaerfyrddin wedi derbyn buddsoddiad annigonol wrth Lywodraeth Cymru, yn enwedig o ystyried y symiau a roddwyd i adnewyddu’r A486 o Landysul i Synod Inn.
Nod y ddeiseb a chyhoeddwyd heddiw yw gwrthdroi esgeulustod Llywodraeth Cymru ynghylch yr A484 a’r B4333 trwy alw arni i gydweithio gyda chynghorau Sir Gâr a Cheredigion er mwyn gwireddu gwelliannau hollbwysig i’r rhwydwaith, a thrwy fynnu bod y Llywodraeth yn ei blaenoriaethu wrth gynllunio yn y dyfodol.
Pwysleisiodd Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion a grym gyriadol tu ôl i’r ymgyrch, bod methiant Llywodraeth Cymru i wario symiau digonol ar yr heolydd yn adlewyrchu anwybodaeth glir ynglŷn â’i phwysigrwydd i’r gymuned leol:
“Ymddangosai’r heol yma yn aml fel ffordd anghofiedig, serch ei rhan annatod yn cysylltu Aberteifi, Castell Newydd Emlyn a Chaerfyrddin, ac er gwaethaf y nifer helaeth o bentrefi sydd yn ffynnu ar ei chyrion.
“I nifer o bobl yn ne Ceredigion, dyma’r brif ac unig heol fawr i Ysbyty Glangwili a gwasanaethau arall yng Nghaerfyrddin – ac yna i gyrchfannau pellach yn Abertawe, Caerdydd, a thu hwnt.
“Mae arni nifer o rannau araf a throellog, yn ogystal â phontydd cul a chorneli peryglus. Mae’n hen bryd i’n hardal mynnu bod y ffordd yn derbyn blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru. Os fedrwn ni gyfleu digon o gefnogaeth gyhoeddus, mawr hyderaf y medrwn ni dwyn perswâd ar Lywodraeth Cymru am bwysigrwydd yr heol gyswllt yma, a chredaf y gall cynghorau Sir Gâr a Cheredigion cydweithio er mwyn llunio cynllun o welliannau sydd angen arnom yn arw.
Galwodd Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, hefyd ar y cyhoedd i ofyn am fwy o fuddsoddiad i’r rhwydwaith, ac atseiniodd cydnabyddiaeth Jones o’i werth aruthrol i’r gymuned leol:
“Fy mlaenoriaeth i a Phlaid Cymru yw gweld fwy o fuddsoddiad ym mhrosiectau trafnidiaeth ac isadeiledd ar draws Gymru gyfan, ac yn enwedig yma yn y gorllewin. Mae’r Llywodraeth Llafur Cymreig wedi canolbwyntio’n ormodol ar fuddsoddi yng nghoridor yr M4.
“Mae’r heol rhwng Aberteifi a Chaerfyrddin yn wythïen hanfodol. Am heol mor bwysig mae wedi dioddef diffyg buddsoddiad ofnadwy, a nawr mae angen cynllun difrifol o welliannau arni.
“Rhaid i’n hymdrechion ni sicrhau bod y ffordd yma’n dwyn blaenoriaeth, a gofynnwn i gynifer o bob ag sy’n bosib cefnogi’r ymgais.”
Ychwanegodd Cartin Miles, cynghorwr sir Plaid Cymru dros ward Aberteifi Teifi, ei chefnogaeth hithau i’r ymgyrch, gan ymhelaethu ar bwysigrwydd anhepgor y ffordd i lewyrch economaidd a chymdeithasol yr ardal leol:
“Mae gwell cysylltiadau ffordd o Aberteifi i’r dwyrain yn hollbwysig i’r dref – er mwyn sicrhau bod trigolion yn medru gwneud defnydd o wasanaethau, ac er mwyn galluogi busnesau lleol i ffynnu.”