Bydd gan Gymru ddim llais ar daliadau ffermio yn y dyfodol

cap_wac.jpg

Fydd gan Gymru ddim llais ar lefel y cyllid i’r hyn ddaw yn lle taliadau fferm yr UE i’r DG, cadarnhaodd Gweinidog o Lywodraeth y DG.

Wrth ymateb i gwestiynau gan lefarydd Plaid Cymru ar Amaethyddiaeth yn San Steffan, Ben Lake AS,  dywedodd Gweinidog Amaethyddiaeth Llywodraeth y DG, George Eustice AS y bydd lefelau cyllido yn y dyfodol yn fater i Lywodraeth y DG fel rhan o’r broses Adolygiad Gwario Cynhwysfawr.

Dan y trefniadau presennol yn yr UE, gwneir penderfyniadau am gyllido’r Polisi Amaethyddol Cyffredin bob saith mlynedd, ac y mae Llywodraeth Cymru yn mynychu trafodaethau mewnol ochr yn ochr â gwledydd eraill y DG cyn i’r DG gytuno ar y fframwaith reoleiddio gyda sefydliadau eraill yr UE. Os gwneir penderfyniadau yn y dyfodol ar daliadau ffermio yn Adolygiad Gwario Cynhwysfawr Llywodraeth y DG, byddant yn cael eu gwneud bob tair blynedd yn hytrach na saith, heb gynrychiolaeth o Gymru.

Yn ei sylw, meddai llefarydd Plaid Cymru ar Amaethyddiaeth yn San Steffan, Ben Lake AS:

“Mae ffermio yn cyfrif am gyfran sylweddol o economi Cymru – mwy o lawer nac yng ngwledydd eraill y DG. Mae’n arbennig o bwysig yn yr ardaloedd gwledig lle mae ffermydd yn asgwrn cefn yr economi ehangach.

“Daw 80% o incwm ffermydd yng Nghymru ar hyn o bryd o’r UE – mae’r arian hwnnw yn amlwg yn hanfodol i amaethyddiaeth Cymru. Mae gennym lais ar hyn o bryd o ran faint o arian a ddyrennir i’r PAC ar lefel yr UE, gan drafod ochr yn ochr â gwledydd eraill y DG cyn dod i gytundeb gyda sefydliadau eraill yr UE, ond ymddengys yn awr y byddwn dan fawd Llywodraeth San Steffan, heb lais i’n llywodraeth genedlaethol ein hunain yn y cyfanswm a ddyrennir i amaethyddiaeth y DG wedi Brexit.

“Os gadewir y trefniadau cyllido ffermydd newydd i Adolygiad Gwario Cynhwysfawr San Steffan, mae perygl hefyd y pennir y cyllido hwnnw bob tair blynedd yn hytrach na phob saith, ac y bydd amaethyddiaeth yn cael ei osod yn erbyn pob sector arall yn y DG, gan gynnwys y sector gwasanaethau ariannol yn Llundain, i gystadlu am arian.

“Nid fel hyn y gwerthwyd Brexit i ffermwyr Cymru. Dylai pob gwlad yn y DG lais cyfartal am gyfanswm yr arian a gaiff ei neilltuo i ffermio ar ôl y PAC, yn ychwanegol at  y modd y dosberthir y cyllid hwn wedyn rhwng y gwledydd.”

Trawsysgrif o sesiwn dystiolaeth Pwyllgor Materion Cymreig gyda George Eustice MP:

Ben Lake

Ar fater cyllido … fe wnaethoch sôn y bydd adolygiad ar un pwynt, o’r dyraniadau dan y PAC ar gyfer y gwahanol genhedloedd … mae dau fater gwahanol, wrth gwrs; y cyntaf yw swm yr arian a aiff i’r pot cyffredinol - tua £3 biliwn ar hyn o bryd - pan gynhelir yr adolygiad, pa rôl fydd gan Lywodraeth Cymru a’r cenhedloedd datganoledig eraill yn swm yr holl arian a osodir ac a aiff i ffermio yn y DG? Ac yna’n ail, rwy’n sylweddoli fod y Gweinidog wedi dweud cyn hyn yn y siambr ei fod yn cydnabod gwahanol natur ffermio ar draws y Deyrnas Gyfunol; eto, petawn yn cael dod yn ôl at y pwynt, sut mae’n rhagweld, wedi’r adolygiad, wedi 2020, y dosberthir dyraniadau unigol y pot ei hun ar draws y DG, oherwydd yn amlwg, rydym   eisoes wedi crybwyll ffermio’r ucheldir a’r nifer uwch, efallai, yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill y DG, y gall sefyllfa godi lle bydd mwy o angen, yn gymharol, yng Nghymru.

George Eustice

Rwyf am fod yn hollol onest a dweud, yn fy holl drafodaethau, mai rhannu arian, rhannu’r deisen ar draws ein teulu o genhedloedd yn wastad yw un o’r pethau mwyaf anodd, a dyna pam ein bod wedi dweud ar ryw bwynt fod angen i ni gael adolygiad o’r modd yr ydym yn gwneud hynny, yn amlwg; ac fel y dywedais yn gynharach, rhaid i ni gydnabod y bydd pawb eisiau bod ar drefn drosiannol ac amserlen synhwyrol, ond mae angen i ni hefyd geisio gweithio allan yr hyn yr ydym yn ceisio ei dargedu mewn polisi newydd a chael rhyw fath o ddealltwriaeth am hynny a’r hyn yr ydym eisiau i’n hamcan cyffredinol fod fel y DG, ac y mae hynny’n drafodaeth fwy eang nac y gallaf i farnu arni yma heddiw.

Ben Lake

O ran fy nghwestiwn cyntaf, felly, am y swm cyffredinol aiff i’r fframwaith cyffredin – gellid awgrymu bod angen rhyw fath o gyfraniad o’r cenhedloedd datganoledig oherwydd, wrth gwrs, fel arall fe fuasent yn cael pot o arian heb iddynt gael rheolaeth dros wario yn gyfan gwbl.

George Eustice

Ie, wel, o ran dyrannu, rhannu’r gacen, beth bynnag y gwnawn ni ei alw, tydyn nhw byth yn swil o ddod ymlaen yn hynny o beth, ac felly, wrth gwrs, fe fydd trafodaeth iawn ar draws y gweinyddiaethau datganoledig. O ran cyfanswm maint y deisen, fel petae, yn y bôn byddai hynny, fel yn awr, yn benderfyniad gwario i’r DG a byddai angen iddo fod … yn amlwg, fe fyddai sylwadau a thrafodaethau a dadlau di-ben-draw amdano, ond fe fyddai’n ffurfio rhan o ryw fath o gynllun am yr Adolygiad Gwario Cynhwysfawr am y tymor hwy wedi 2022.

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.