Bu Ben Lake AS mewn derbyniad Seneddol a gynhaliwyd gan Gymorth Canser Macmillan yn ddiweddar i drafod eu hymgyrch Save Our Support, ymgyrch i sicrhau bod gan bob gwlad yn y DU weithlu canser cynaliadwy sy’n cael ei ariannu yn llawn er mwyn cefnogi’r miliynau o bobl sy’n byw gyda chanser ar draws y DU.
Mae'r gwasanaeth iechyd yn wynebu prinder nyrsys ar hyn o bryd sydd yn ei dro yn cael effaith niweidiol ar wasanaethau rheng flaen a'r gofal y mae cleifion yn ei dderbyn yma yng Ngheredigion. Mae swyddi nyrsio gwag ar draws y gweithlu ac mae amseroedd aros am driniaeth a diagnosis canser yn mynd yn hirach fyth. Mae Ben Lake AS yn cefnogi ymgyrch Macmillan i sicrhau bod gan bobl Ceredigion fynediad at arbenigwyr nyrsio gwych a fydd yn eu cefnogi trwy gyfnod anodd iawn yn eu bywydau.
Roedd canlyniadau Arolwg Gweithlu Macmillan yn bryderus tu hwnt. Roeddent yn dangos cyfran uchel o swyddi gwag, gweithlu sy'n heneiddio a nifer cynyddol o nyrsys canser yn gweithio mewn swyddi ar lefel is. Mae mwy na dwy ran o dair o Nyrsys Arbenigol Canser wedi dweud wrth Macmillan nad ydyn nhw'n cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Mae hynny oherwydd bod y gwasanaeth iechyd yn gwegian o dan bwysau cynyddol.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Ar hyn o bryd, y gwir amdani yw nad oes digon o Arbenigwyr Nyrsio Canser â'r sgiliau cywir i ddiwallu anghenion y boblogaeth gynyddol sy’n dioddef o ganser sydd ar fin cyrraedd 4 miliwn erbyn 2030. Rwyf am i'm hetholwyr yng Ngheredigion gael y gefnogaeth y maent yn ei haeddu gan wasanaethau canser lleol a dyma pam y byddaf yn parhau i weithio gyda Macmillan Cancer Support ar yr ymgyrch pwysig hwn.”