Mae cais Rhyddid Gwybodaeth gan Blaid Cymru wedi datgelu y cafodd 174,996 o driniaethau eu canslo mewn ysbytai yng Nghymru yn ystod 2013-14, 2014-15, a chwe mis cynta 2015-16. Mae hyn yn gyfartaledd o 1,346 triniaeth yn cael eu canslo bob wythnos.
Mae'r broblem yn pwysleisio'r angen am fesurau i gynyddu'r nifer o nyrsys a meddygon sy'n cael eu recriwtio, fel y rhai a gyhoeddwyd gan Elin Jones.
Dangosodd y ffigurau fod dros 6,600 o driniaethau wedi eu canslo am nad oedd gwelyau ar gael mewn wardiau, dros 16,000 wedi eu canslo am nad oedd staff clinigol ar gael, a thros 2,700 heb ddigwydd am nad oedd cyfarpar ar gael.
Yn lleol yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, canslwyd 27,831 o driniaethau o fewn y cyfnod, gan gynnwys 3,413 ym Mronglais, 8,924 yng Nglangwili a 5,778 yn Llwynhelyg.
Dywedodd Elin Jones AC, Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru: “Mae pob triniaeth sy’n cael ei chanslo yn ychwanegu at yr amseroedd aros maith y mae cleifion yn wynebu am lawer triniaeth. Mae’n hollol annerbyniol fod dros 174,996 o driniaethau dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf wedi eu canslo. Mae’n bwysig cofio’r loes y gall canslo ei achosi i gleifion a all fod yn aros am amser maith mewn poen i gael triniaeth.
“Rhaid i gleifion sicrhau nad yw adnoddau yn cael eu gwastraffu na bod triniaethau’n cael eu canslo oherwydd nad ydynt yn dod i’r ysbyty neu’n methu rhoi gwybod i’r ysbyty mewn pryd os yw’r apwyntiad yn anghyfleus. Mae gormod yn cael eu canslo am y rhesymau hyn.
“Bu Plaid Cymru yn codi mater cynllunio gweithlu gyda Llywodraeth Lafur Cymru bob cyfle a gânt, a bydd yn anodd i bobl ddeall pam y canslwyd miloedd o driniaethau am resymau megis diffyg cyfarpar neu staff meddygol heb fod ar gael neu ar wyliau.
“Mae staff y GIG yn gwneud gwaith gwych, dan amgylchiadau anodd yn aml iawn, ac y mae’r cyhoedd yn rhoi gwerth mawr ar y gwasanaeth iechyd. Ond yn amlwg, mae’n rhaid sicrhau bod mwy yn cael ei wneud mewn ysbytai i ofalu bod cyn lleied ag sydd modd o driniaethau yn cael eu canslo yn ddiangen.
“Dan lywodraeth Plaid Cymru buasem yn recriwtio 1,000 o feddygon a 5,000 o nyrsys ac yn torri i lawr ar fiwrocratiaeth ddiangen.”
Darllenwch fwy yma am gynlluniau Elin Jones i hyfforddi mwy o feddygon.