Plaid Cymru yn annog ASau Llafur Cymreig i gefnogi’r alwad am gadoediad

Dylai San Steffan ddilyn esiampl y Senedd, medd Liz Saville Roberts

Mae Liz Saville Roberts AS, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi annog ASau Llafur Cymraeg bleidleisio o blaid gwelliant i Araith y Brenin a gyflwynwyd gan yr SNP a chyd-arwyddwyd gan Blaid Cymru yn galw am gadoediad ar unwaith yn Israel a Gaza.

Cyn y bleidlais ar y cadoediad a ddisgwylir heddiw (dydd Mercher), mae Plaid Cymru wedi annog ASau Llafur Cymreig i ddilyn arweiniad y Senedd yr wythnos diwethaf, “i gymryd safiad o blaid dynoliaeth”.

Cefnogodd Senedd Cymru alwadau am gadoediad yr wythnos diwethaf, ar ôl i 11 o fainc gefn Llafur gefnogi cynnig Plaid Cymru. Ataliodd gweinidogion Llywodraeth Cymru eu pleidlais.

 

Mewn llythyr, ysgrifenna Liz Saville Roberts AS:

“Yr wythnos ddiwethaf, cymrodd y Senedd safiad o blaid dynoliaeth drwy alw am gadoediad yn Gaza. Gwlad fach i’w Cymru, ond gwnaeth ein llywodraeth genedlaethol ddatganiad cryf am heddwch.

"Ceisiodd Plaid Cymru gefnogaeth drawsbleidiol i'r cynnig gyda galwad glir a diamwys am gadoediad o'r ddwy ochr fel rhagflaenydd i drafodaethau heddwch, diwedd parhaol ac ar unwaith i drais a marwolaeth sifiliaid yn Israel a Phalestina, ac ymdrech fyd-eang i leddfu'r dioddefaint dyngarol yn Gaza.

“Ymunodd 11 ASau Llafur a 1 Democrat Rhyddfrydol a’r alwad am heddwch. Nawr, mae gennym ni yn San Steffan y cyfle i ymuno â’r galwadau hynny. Gallwn ddangos i sifiliaid diniwed Gaza, a theuluoedd y gwystlon o Israel sy’n crefu iddynt ddychwelyd yn ddiogel, ein bod yn sefyll ochr yn ochr â nhw.

“Mae ataliadau dyngarol yn annigonol. Mae UNRWA yn dweud y bydd cyfathrebu yn dechrau methu o ddydd Iau 16 Tachwedd, pan fydd cwmnïau telegyfathrebu yn rhedeg allan o danwydd i weithredu’u canolfannau data a safleoedd cyswllt mwyaf.

“Heb gyfathrebu dibynadwy, ni fydd pobl yn gwybod pryd fydd yr ataliadau bomio 4 awr yn dechrau neu bryd y dylent ddechrau’r daith beryglus ar draws Gaza heb gael tanwydd.

“Mae’n bwysig ein bod ni, fel seneddwyr, yn gwneud yr hyn a allwn i ddod a’r dioddefaint yma i ben ac i geisio adeiladu heddwch parhaol i Israeliaid a’r Palesteiniaid fel ei gilydd.

“Rwy’n eich annog i gefnogi gwelliant yr SNP i Araith y Brenin yfory.”


Dangos 1 ymateb

  • Elain Roberts
    published this page in Newyddion 2023-11-22 10:37:37 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.