Mae’r adroddiadau fod y gwasanaeth Parcio a Theithio sy’n gwasanaethu’r Ysbyty yn bryder. Mae hi wedi dod yn syndod i’r bobl sy’n ddefnyddwyr rheolaidd o’r gwasanaeth.
Medd Elin Jones; "Rwy’n gwybod am nifer o bobl sy’n dibynnu ar y gwasanaeth hwn er mwyn mynd at ddrws flaen Bronglais oherwydd fod parcio mor anodd yn ardal Penglais a Ffordd Caradog. Mae nifer o bobl leol yn ei ddefnyddio hefyd i diethio o gwmpas y dre, ac rhaid gwneud yn siwr fod gwasanaethau yn cwrdd a’u hanghenion. Rhaid cymryd hyn oll i ystyriaeth cyn gwneud penderfyniad terfynol.
"Dylai’r holl sefydliadau, yn enwedig y Bwrdd Iechyd a’r Cyngor, sicrhau fod gwasanaeth effeithiol i Ysbyty Bronglais. Dylid ymgynghoru’n llawn ar ddyfodol y bysiau, ac mae’n bwysig fod gwasanaeth sy’n cwrdd ag anghenion ymwelwyr a chleifion yn parhau."