Cyfarfod Fflecsi Bwcabus
Cyfarfod hybrid yw hwn. Os byddai'n well gennych ymuno ar-lein trwy Teams nid oes angen i chi gwblhau'r RSVP isod, defnyddiwch y ddolen hon i ymuno yn rhithiol am 4yp ar 19/10/23.
Os byddai'n well gennych ymuno mewn person, llenwch y ffurflen isod fel ein bod yn gwybod faint o bobl i'w disgwyl.
Dyma gyfleu i drafod dyfodol cludiant cymunedol mewn ardaloedd gwledig gydag Elin Jones AS, Ben Lake AS, Dolen Teifi yn ogystal â chynrychiolwyr o’r awdurdodau lleol.
Cawson newyddion syfrdanol gan y Gweinidog am diddymiad y gwasanaeth Fflecsi Bwcabus yn gyfan gwbl erbyn diwedd mis Hydref 2023. Mae colli’r gwasanaeth hon yn peri gofid i lawer o deithwyr, yn enwedig pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig ac sy’n holl ddibynnol a’r Bwcabus i gyrraedd apwyntiadau neu i siopa.
Bwriad y cyfarfod ydy casglu gwybodaeth gan ddefnyddwyr Bwcabus er mwyn gallu helpu ffurfio gwasanaethau addas i’r dyfodol.
Cyfarfod Hybrid:
- I ymuno ar-lein, dilynwch y linc yma i’r cyfarfod Teams.
- I ymuno mewn person, danfonwch RSVP i’n helpu paratoi ac yna dewch i’r Dderbynfa yn Ysgol Bro Teifi rhwng 3.45-4.00yp ar 19eg o Hydref.