Mae Plaid Cymru wedi lansio ymgyrch fawr newydd er mwyn hybu y diwydiant bwyd a diod Cymreig.
Mae’r ymgyrch ‘Dwi'n prynu’n lleol’ yn annog aelodau a chefnogwyr y blaid i brynu mwy o gynnyrch bwyd a diod lleol gyda’r nod o gynorthwyo’r busnesau hynny i gwrdd â sialensau pandemig Covid-19 yn ogystal ag adeiladu gwytnwch ar gyfer y dyfodol.
Mae’r ymgyrch a lansiwyd gan Llyr Gruffydd AS, gweinidog cysgodol Plaid ar faterion gwledig, a Ben Lake AS, llefarydd y Blaid ar faterion gwledig yn San Steffan, yn amlygu sut y gallai’r pandemig, o dan yr arweinyddiaeth gywir, ddarparu cyfle i ail osod yr economi.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS:
“Mae’r diwydiant bwyd a diod Cymreig wedi cael ei effeithio’n galed gan y pandemig coronafeirws. Gwelwyd llawer o ffermwyr Cymru yn colli eu marchnadoedd dros nos wrth i dai bwyta a siopau coffi gau a cholli marchnadoedd alllforio. Gwelsom i gyd luniau o laeth yn cael ei dywallt i lawr i ddraeniau ac mae prisiau bîff wedi eu heffeithio’n ddifrifol gan adael ffermydd i wynebu colledion a brwydro i oroesi.
“Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu yn galed ar i’r Llywodraeth weithredu i helpu’r busnesau hyn, ond gallwn i gyd wneud rhagor. Dyna paham ein bod yn annog pob un ohonom i wneud ymdrech ychwanegol i gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod Cymreig lle bynnag mae hynny’n bosib.
“Yn nhermau ein heconomi a chyflenwadau bwyd, mae’r feirws wedi amlygu a dwysáu materion a anwybyddwyd ers meitin, yn cynnwys ein dibyniaeth ar fewnforion. Nawr yw’r amser i ail feddwl, ailosod ac ailadeiladu ein cyflenwadau bwyd o’r dechreuad.
“Mae Llywodraeth y DU wedi cefnu yn raddol ar bolisi bwyd ac wedi caniatau i’n diwydiant manwerthu bwyd grynhoi fwyfwy mewn llai o ddwylo. Dim ond 4 cwmni sy’n rheoli 70% o farchnad manwerthu bwyd y DU. Mae’r cwmniau manwerthu bwyd mawr wedi defnyddio y crynhoad hyn o bŵer i ostwng prisiau dro ar ôl tro i ffermwyr, gan barhau i amsugno lles ariannol amaethyddiaeth ddomestig.
“Roedd nam sylfaenol yn ein model cynhyrchu bwyd hyd yn oed cyn Covid-19. Eto, i nifer o bobl a hyd yn oed Llywodraeth y DU, ni ddaeth eiddilwch a pheryglon y model presennol o gyflenwi bwyd yn weladwy tan iddynt weld silffoedd gwag ddydd ar ôl dydd wrth i brynu mewn panig chwalu y gadwyn gyflenwi doredig.”
Ychwanegodd Ben Lake AS:
“Mae gan Blaid Cymru ymrwymiad hirdymor i ymdrin â’r argyfwng yn y diwydiant bwyd yng Nghymru a hynny yn cychwyn gyda pholisi caffael lleol. Mae rhai cynghorau yng Nghymru yn caffael hanfodion cinio ysgol megis tatws a bara o Rochdale a Lerpwl. Mae cannoedd o filoedd o bunnoedd yn cael ei golli o’r pwrs Cymreig cyhoeddus yn flynyddol gan fod cynhyrchwyr a mentrau lleol yn cael eu hanwybyddu neu oherwydd nad ydynt yn gallu cystadlu gyda’r corfforaethau mawr.
“Mae adeiladu diwydiant bwyd gwydn yn golygu nid yn unig cefnogi ein ffermwyr ond mae hefyd yn golygu datblygu prosesu a datblygu gwerth ychwanegol i’n deunydd crai. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen llais unedig cryf ar y diwydiant bwyd Cymreig a fydd yn gwarchod a chefnogi ein cynhyrchwyr bwyd ac amaethyddiaeth.
“Yng Nghymru, mae ein ffermwyr nid yn unig yn geidwaid yr amgylchedd ond maent hefyd yn asgwrn cefn economaidd i’n cymunedau gwledig a’n trefi marchnad. Mae amaethyddiaeth Gymreig yn chwarae rhan allweddol yn yr economi ehangach gan gyflawni record mewn allforion gwerth dros hanner biliwn o bunnoedd yn 2018 a gweithio fel creigwely i’r sector bwyd a diod Cymreig sy’n cyflogi dros 240,000 o weithwyr.”
Mae’r ymgyrch “Dwi’n Prynu’n Lleol” wedi ei chynllunio i roi ffocws ychwanegol ar fwyd lleol o safon uchel sy’n cael ei gynhyrchu led-led Cymru ac i wella diogelwch bwyd a chynyddu incwm ffermwyr.
Ychwanegodd Mr Gruffydd:
“Bydd yr ymgyrch hon yn annog cwsmeriaid i brynu bwyd wedi ei gynhyrchu yn fwy lleol, gan gadw gwerth yn yr economi leol, ein llwybr troed amgylcheddol yn isel a chryfhau sefydliadau cymunedol megis marchnadoedd ffermwyr a’r Stryd Fawr leol.
“Dyna pam bod Plaid Cymru yn parhau i weithio gyda’r undebau amaethyddol a mentrau gwledig i hybu strategaeth fwyd a fydd yn annog prynu cynnyrch lleol er mwyn cefnogi yr economi leol. Bydd hyn yn chwistrellu galw i mewn i’n cymunedau gwledig, cydnabyddiaeth i’r amgylchedd a chynaliadwyedd i’r modd rydym yn masnachu a sicrhau dewis a phris teg i gwsmeriaid a chynhyrchwyr.
“Gyda golygfeydd o gnydau heb eu cynaeafu a ffermwyr yn tywallt llaeth i lawr i’r draen oherwydd diffyg galw, mae’n rhaid i ni gofio nad problemau yw’r rhain a achoswyd gan y pandemig yn unig. Mae hyn wedi bod yn cyniwair ers peth amser yn sgîl methiant ein model cyflenwi bwyd. Dim ond trwy fod yn uchelgeisiol a chlir na allwn ddychwelyd i fusnes fel arfer a arweiniodd i hyn y gallwn ddarparu diogelwch bwyd ac adeiladu gwytnwch yn ein cymdeithas a’n heconomi.”