Wrth i arolygon ddangos lefelau gwariant yn cynyddu drwy ddefnyddio’r drefn o Brynu Nawr Talu’n Hwyrach drwy gynhyrchion fel Klarna a Clearpay yn ystod y cyfnod clo, mae Ben Lake, AS Ceredigion, yn ymuno â dros 70 o ASau o bob rhan o’r senedd a Martin Lewis o Money Saving Expert i alw ar y Llywodraeth i amddiffyn defnyddwyr ac i reoleiddio'r diwydiant Prynu Nawr Talu’n Hwyrach.
Ar ddydd Mercher 13eg Ionawr, bydd ASau yn trafod Cymal Newydd 7 i'r bil Gwasanaethau Ariannol sy'n gofyn am reoleiddio'r diwydiant Prynu Nawr Talu’n Hwyrach, math o gredyd sydd wedi ffynnu yn ystod y cyfnod clo. Mae ymchwil diweddar gan Comparethemarket.com yn dangos bod cynlluniau PNTH yn cael eu defnyddio 35% gwaith yn fwy nawr na chyn y pandemig. Mae 27% o ddefnyddwyr yn nodi bod hyn oherwydd na allent fforddio cwblhau pryniant llwyr.
Mae cwmnïau PNTH yn caniatáu i ddefnyddwyr wneud taliadau dros sawl wythnos ac maent wedi bod yn tyfu mewn poblogrwydd yn ystod y pandemig fel ffordd i reoli cost prynu ar-lein. Ar hyn o bryd nid oes rhaid i'r cwmnïau hyn gadw o fewn rheolau'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol oherwydd bwlch rheoliadol am nad ydynt yn codi llog - ac eto mae tystiolaeth gynyddol yn dangos bod eu harferion yn achosi poen meddwl i ddefnyddwyr sy'n mynd i ddyled wrth ymrwymo i wariant uwch o ganlyniad i ddefnyddio'r cwmnïau hyn. Nid damweiniol yw hyn - mae'r cwmnïau yma’n marchnata eu gwasanaethau i fanwerthwyr ar y sail bod prynwyr yn gwario mwy yn gyffredinol wrth gael eu hannog i ymestyn taliadau dros gyfnod o amser.
Wrth siarad am y mater, dywedodd Ben Lake AS:
“Gydag un o bob pedwar siopwr yn defnyddio cwmnïau PNTH yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae'n hanfodol ein bod ni'n gweithredu cyn i hyn ddod yn sgandal tebyg i Wonga. Mae'r cwmnïau hyn yn ei gwneud hi'n haws gorwario ar-lein oherwydd bod y costau'n ymddangos yn is wrth iddynt gael eu hymestyn - ac eto gyda ffyrlo a diswyddiadau yn codi efallai na fydd yr hyn sy'n ymddangos yn fforddiadwy mis yma’r un mor fforddiadwy’r mis nesaf.”
“Ar hyn o bryd ni all defnyddwyr hyd yn oed gwyno i'r Ombwdsmon Gwasanaethau Ariannol am y cwmnïau hyn gan nad ydynt wedi'u cynnwys yn y deddfau credyd. Dyna pam ryw'n ymuno gydag ASau o bob plaid sy'n galw ar i'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol gamu i'r adwy cyn ei bod hi'n rhy hwyr a rheoleiddio'r cwmnïau hyn i amddiffyn defnyddwyr rhag mynd i ddyled anfforddiadwy.
Mae'r cwmnïau hyn hefyd yn defnyddio dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eu cynhyrchion ac annog dilynwyr i wario mwy. Yn ddiweddar, cadarnhaodd yr Awdurdod Safonau Hysbysebu gwyn gan Stella Creasy AS ac mae'r ymgyrch hon eisoes wedi ennill cefnogaeth Martin Lewis o MoneySavingExpert.com.
Wrth siarad am yr ymgyrch dywedodd Martin Lewis, sylfaenydd MoneySavingExpert.com:
Ni ddylid defnyddio “Prynu Nawr Talu’n Hwyrach (PNTH) fel ffordd o fyw, rhywbeth cŵl, neu ffordd uwch-dechnoleg newydd i dalu. Dylid ei weld am yr hyn ydyw - dyled. Mae’r ASH yn iawn i ddyfarnu yn sgil cwyn Stella Creasy bod hysbysebu ‘gwella hwyl’ ar gyfer cynnyrch credyd, sy’n aml yn cael ei dargedu at oedolion iau, yn gwbl amhriodol, ”
Bydd y Mesur Gwasanaethau Ariannol yn dychwelyd i'r senedd ar 13eg Ionawr 2021 pan fydd cyfle i bob AS bleidleisio ar y cynnig hwn. Mae'r gwelliant hefyd wedi'i lofnodi gan dros 70 o ASau o bob plaid wleidyddol.
Dangos 1 ymateb