Mae’r AS lleol Ben Lake yn annog trigolion Ceredigion i gefnogi eu siopau lleol yn y cyfnod cyn y Nadolig a thu hwnt.
Ar ôl blwyddyn gythryblus i fusnesau annibynnol, a chyn penwythnos Dydd Gwener Du, mae Visa wedi rhyddhau canfyddiadau allweddol o'i adroddiad a grëwyd mewn partneriaeth â Cebr (Canolfan Ymchwil Economaidd a Busnes) sydd ar fin cael ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad economaidd-gymdeithasol yn cael ei lansio ochr yn ochr ag ymgyrch Nadolig Visa Where You Shop Matters, gan hyrwyddo busnesau lleol, annibynnol.
Yn ôl yr adroddiad, am bob £10 rydyn ni'n ei wario gyda busnes lleol, mae mwy na thraean (£3.80) yn aros yn yr ardal, gan ddangos gwerth siopa'n lleol. Trwy ddewis siopa’n lleol y Nadolig hwn, gallai defnyddwyr ddyblu faint o arian sy’n aros yn eu hardal leol ar adeg dyngedfennol i fusnesau bach Cymru.
Canfu’r ymchwil hefyd fod cwsmeriaid y DU ar hyn o bryd yn gwario ychydig dros un rhan o bump o’u harian yn lleol, ond byddent yn barod i wario hanner eu harian gyda busnesau lleol.
Dywedodd dros hanner y rhai a arolygwyd (54%) ei bod yn bwysig iddynt siopa’n lleol oherwydd eu bod yn gwybod faint mae eu cefnogaeth yn ei olygu, tra bod 43% yn dweud eu bod yn cael mwynhad pan fyddant yn cefnogi siopwyr lleol.
Mae defnyddwyr hefyd yn credu bod busnesau lleol yn cyfrannu at eu cymuned trwy gyflogi pobl leol (49%), gwneud yr ardal yn lle gwell i fyw ynddo (39%) a'i gadw'n fywiog ac yn fyrlymus (38%).
Dywedodd Ben Lake AS:
“Mae lle rydyn ni’n dewis siopa yn bwysig. I lawer ohonom, gall siopa'n lleol fod yn ffordd gyfleus i brynu nwyddau a gwasanaethau, i berchnogion busnesau lleol mae ein cefnogaeth yn hanfodol bwysig, yn enwedig yn yr amseroedd heriol hyn. Bydd cefnogi busnesau lleol y Nadolig hwn yn cael effaith ddwys ar sut mae ein cymunedau yn gwella. ”
Mae AS Ben Lake hefyd wedi cefnogi cynnig trawsbleidiol yn y Senedd yn galw ar Lywodraeth y DU i dalu’r costau postio am siopa ar-lein gan fanwerthwyr lleol gan wneud siopa o siopau bach yn opsiwn mwy ymarferol i rai cwsmeriaid.
Mae’r Cynnig Cynnar-yn-y-dydd yn nodi y gallai cynllun o’r fath gymell siopwyr i brynu wrth amrywiaeth o fusnesau lleol ac mae’n galw ar y llywodraeth i gael gwared ar y “baich cost dosbarthu” y mae llawer o siopau bellach yn ei wynebu.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Mae’r ymgyrch drawsbleidiol hon yn galw ar Lywodraeth y DU i dalu’r ffi bostio ar gyfer busnesau annibynnol fyddai’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn hinsawdd anodd i’n siopau ar y Stryd Fawr, ac yn eu helpu i gystadlu gyda’r cynigion postio am ddim y mae cymaint o gewri siopa ar-lein bellach yn eu cynnig ”