Elin Jones yn galw ar fusnesau sy’n 'cwympo trwy'r rhwyd gefnogaeth' i amlygu eu hunain

2.png

Mae Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion wedi galw ar fusnesau yng Ngheredigion nad sydd eisoes wedi derbyn cymorth cynlluniau cefnogi busnes COVID-19 i ddod i amlygu eu hunain.

Cyn y daw rhagor o gyhoeddiadau disgwyliedig Llywodraeth Cymru mae Elin Jones a’i chyd wleidyddion Plaid Cymru wedi crynhoi rhestr o amgylchiadau a mathau o fusnesau sydd ar hyn o bryd wedi'i gadael heb gymorth.

Dywedodd Elin Jones:

“Mae pob agwedd o economi Ceredigion yn bwysig ac angen ei chefnogi. Mae nifer o gyhoeddiadau a wnaed gan Lywodraethau Cymru a’r DU yn fodd i gynnal busnesau yn ystod argyfwng COVID-19. Fodd bynnag, mae nifer o fusnesau hefyd yn cwympo trwy'r rhwyd.

“Mae nifer o fusnesau amaethyddol wedi cael anhawster i gael mynediad i gefnogaeth, yn ogystal â busnesau nad sy’n talu TAW, a busnesau lle mae’r perchnogion yn talu buddrannau i’w hunain yn hytrach na chymryd cyflog.

“Mae Plaid Cymru yn gobeithio gweld cyhoeddiad buan ynglŷn ag ymestyn cefnogaeth i fusnesau sydd wedi methu â chael mynediad at nawdd a chymorth sydd ei angen arnynt. Os yw eich busnes yn profi anhawster i gael mynediad i gefnogaeth yna mae croeso i chi fy e-bostio a byddaf yn hapus i godi eich mater gyda Llywodraeth Cymru.”

Gallwch ebostio Elin Jones ar: [email protected]

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.