Ben Lake yn annog Prif Weinidog i gyflwyno pecyn cymorth ar gyfer y sector digwyddiadau a lletygarwch.
Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS, wedi galw ar Lywodraeth y DU yn ystod sesiwn gwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw i roi cymorth ar frys i fusnesau yn y cadwyni cyflenwi’r sector digwyddiadau a lletygarwch.
Tynnodd AS Ceredigion sylw at y ffaith bod Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i lenwi'r bylchau mewn cymorth ariannol o ddechrau'r pandemig, a dywedodd fod ffigurau diweithdra ddoe yn ein hatgoffa o gost anweithgarwch y Llywodraeth.
Dengys data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod diweithdra yng Nghymru wedi codi i 4.6% rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2020, cynnydd o 28,000 o'i gymharu ag o Ebrill i fis Mehefin.
Wrth siarad yn siambr Tŷ'r Cyffredin, dywedodd Ben Lake AS:
"Yn ddiweddar, yn anffodus, rydym wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn diweithdra yng Nghymru ers bron i 30 mlynedd.
"Bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod y sectorau lletygarwch a digwyddiadau wedi cael ergyd drom gan Covid-19. Effeithiwyd yn arbennig ar fusnesau yn eu cadwyni cyflenwi. Nid ydynt wedi bod yn gymwys ar gyfer y rhan fwyaf o'r cynlluniau cymorth grant, ac er eu bod i'w croesawu, nid yw benthyciadau adfer na'r cynllun ffyrlo yn cynnig cymorth iddynt dalu costau cynnal drwy fisoedd y gaeaf.
"A wnaiff y Prif Weinidog felly godi'r mater hwn gyda'r Canghellor, a chyflwyno pecyn sy'n cynnig gobaith i'r busnesau hyn i oroesi i’r gwanwyn?"
Wrth ymateb, dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson AS fod Llywodraeth y DU, ynghyd ag awdurdodau lleol ac awdurdodau twristiaeth Cymru, yn chwilio am ffyrdd i gadw'r tymor twristiaeth yn fyw drwy gydol misoedd anodd y gaeaf.
Wrth siarad ar ôl y sesiwn, dywedodd Ben Lake AS:
"Ers saith mis, mae Plaid Cymru wedi bod yn galw ar y Canghellor a'r Prif Weinidog i drwsio’r bylchau mewn cymorth ariannol i fusnesau. O gadwyni cyflenwi lletygarwch i'r hunangyflogedig, mae miloedd o fusnesau ac unigolion heb gael unrhyw gymorth drwy'r pandemig.
"Yn anffodus, mae ffigurau diweithdra ddoe yn ein hatgoffa o gost anweithgarwch y Llywodraeth, wrth i Gymru weld y cynnydd mwyaf yn y gyfradd diweithdra ers degawdau."
"Rhaid i'r Prif Weinidog a'r Canghellor yn awr gyflwyno pecyn ar frys i gefnogi'r busnesau hyn drwy'r gaeaf, neu byddwn yn wynebu diweithdra yn codi i’r entrychion, cadwyn gyflenwi wannach, a bydd lletygarwch a digwyddiadau'n cael eu gadael heb unrhyw gyflenwyr i gynnal y sector pan fydd nôl ar ei thraed."
Dywedodd Tracy Kirtley, perchennog Rheidol Rosettes, busnes sydd wedi'i leoli yn etholaeth Ben Lake yng Ngheredigion sy'n cyflenwi rhosynnau ar gyfer sioeau amaethyddol:
"Mae wedi cymryd deunaw mlynedd i Rheidol Rosettes i ddod yn wneuthurwr rhoséd mwyaf yng Nghymru, sydd bellach yn cyflogi dau aelod o staff llawn amser a thri is-gontractwr.
"O fewn mis, daeth ein hincwm i ben, mae ein staff ar ffyrlo ac fel perchnogion, ni allwn gymryd cyflog, ni allwn hawlio unrhyw fudd-daliadau gan fod gennym gynilon felly rydym yn dibynnu ar y teulu i'n cefnogi drwy'r cyfnod llym hwn.
"Rydym yn cynhyrchu ar gyfer llawer o sioeau a digwyddiadau yng Nghymru, y DU a ledled y byd, ond ers Covid nid ydym wedi derbyn archebion, ac rydym bellach yn clywed am sioeau a digwyddiadau'n cael eu canslo ar gyfer 2021.
"Rydym ni, fel busnes teuluol, yn cael ein dinistrio, yn ariannol ac yn feddyliol ac mae angen cymorth arnom, a hynny yn gyflym."