Cytundeb Plaid Cymru yn sicrhau cyllideb fawr i Geredigion

Elin Jones yn trafod cytundeb cyllid Plaid Cymru gyda'r Llywodraeth, a'i effaith gadarnhaol ar Geredigion

Mae Plaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol wedi taro bargen gyda Llywodraeth Cymru sydd wedi penderfynu ar flaenoriaethau gwariant o £279 miliwn dros y flwyddyn nesaf.

26604654052_425992857f_z.jpg

Dyma’r gyllideb fwyaf i gael ei gytuno arno gan unrhyw wrthblaid yn hanes y Cynulliad, sy’n gweld Plaid Cymru yn diogelu nifer o’u hymrwymiadau maniffesto ac yn cael effaith go iawn ar nifer o sefydliadau Ceredigion a phobl ein hetholaeth.

Dywedodd Elin Jones AC, a gyfrannodd at ddiogelu nifer o bolisïau i Geredigion ym maniffesto gwreiddiol y Blaid ac sy’n cael eu gwireddu yn awr, y bydd y cytundeb cyllideb yn rhoi manteision sylweddol i sefydliadau ac isadeiledd drwy’r etholaeth.

Mae trafodaethau’r gyllideb wedi cytuno ar:

- £3m i’r celfyddydau a fydd yn gweld cynnydd o 3.5% i gyllidebau'r Llyfrgell Genedlaethol a’r Cyngor Llyfrau Cymraeg
- £30m o gyllid ychwanegol i Addysg Uwch ac Addysg Bellach
- Datblygu Ysgol Feddygaeth i Brifysgol Aberystwyth, yn ddibynnol ar gynnig busnes
- £15m ychwanegol i ganolfannau diagnostig
- Cynnydd o £20m ar wariant ar iechyd meddwl
- £25m ychwanegol i awdurdodau lleol
- £5m o gyllid ychwanegol i Gymraeg i Oedolion ac i Asiantaeth Genedlaethol yr Iaith
- £300,000 am astudiaeth ddichonoldeb lawn i ail-agor y rheilffordd o Aberystwyth i Gaerfyrddin

Dywedodd Elin Jones AC:

“Bydd cytundeb Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru yn dangos rhai gwelliannau clir iawn ym mywydau pobl, a all fod yn fwy amlwg yng Ngheredigion nag yn unman arall.

“Mae ein colegau Addysg Uwch a Phellach yn hollbwysig i’n heconomi ac i addysg pobl yng Ngheredigion. Rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid ychwanegol o £30m trwy Gymru, a fydd, fel sir â dwy dref prifysgol ynddi, yn creu ymdeimlad cryf yma. Hefyd rydym wedi llwyddo i sicrhau ymrwymiad i gau’r bwlch ariannu rhwng addysg alwedigaethol ac academaidd.

“Yn ogystal â hyn, bydd y cytundeb i adeiladu ar bartneriaeth rhwng Prifysgol Aberystwyth a Choleg Milfeddygaeth Frenhinol yn gosod sylfeini i Ysgol Feddygol yn Aberystwyth, ac yn a chreu canolfan arbenigedd milfeddygol i Geredigion.

“Mae’r celfyddydau a threftadaeth hefyd yn holl bwysig i Geredigion. Mewn cyfnod anodd i gyllid ein sefydliadau diwylliannol, mae’r Blaid wedi llwyddo i wyrdroi toriadau arfaethedig i gyllideb a sicrhau £3m ychwanegol i’r sector hyn. Am y tro cyntaf ers amser hir, bydd sefydliadau fel y Cyngor Llyfrau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru sy’n ariannu cwmnïau theatr, canolfannau celfyddydol ac artistiaid trwy Geredigion yn gweld codiad.

“Bydd ymgyrchwyr hefyd yn falch o glywed ein bod wedi sicrhau astudiaeth ddichonoldeb lawn i ailagor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, a fydd yn gweld canolbarth a gorllewin Cymru yn cael eu hintegreiddio’n iawn â rhwydwaith trafnidiaeth Cymru.

“Rydym hefyd wedi llwyddo i sicrhau buddsoddiad sylweddol i wella amseroedd diagnosis, ac i driniaeth canser a chyflyrau prin. Mae yna hefyd ymrwymiad o £20m ychwanegol i wella gwasanaethau iechyd meddwl, sydd wedi bod ar ei hôl mewn cyllid am amser hir.

“Bydd yna hefyd gynnydd mewn gwariant i awdurdodau lleol sydd, fel y gwyddom yng Ngheredigion, wedi eu rhoi o dan bwysau enfawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bydd y £25miliwn ychwanegol a sicrhawyd, o’r hyn fydd Ceredigion yn cael cyfran deg ohoni, yn mynd ymhell tuag at wella gwasanaethau lleol.

“Drwyddi draw, mae’r gyllideb flaengar hon wedi bod yr un mwyaf effeithiol i gael ei chytuno yn hanes y Cynulliad. Mae Plaid Cymru wedi hau’r hadau, ac rwy’n edrych ymlaen at bobl Ceredigion yn medi’r manteision.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.